bbc now 2014-15

68

Upload: bbc-national-orchestra-chorus-of-wales

Post on 19-Mar-2016

235 views

Category:

Documents


4 download

DESCRIPTION

BBC NOW 2014-15

TRANSCRIPT

Page 1: BBC NOW 2014-15
Page 2: BBC NOW 2014-15

WELCOMECROESOWelcome to the BBC National Orchestra and Chorus of Wales 2014-15 concert season, your guide to the most comprehensive, virtuosic and exciting classical music series in Wales.

As the Orchestra’s new Director, I have had a whirlwind first few months getting to grips with our incredible range of activity. For the new season we’ve combined everything into one brochure, so you too can see exactly what we will be doing, in concert, in the studio, on the road and behind the scenes. It’s an impressive range of activity in the community and really underlines our role as Wales’s national orchestra.

From Bangor to Swansea, Aberystwyth to Cardiff, BBC NOW is at the heart of cultural life across the country, and we’re also proud to be part of so many wonderful festivals, in Fishguard, St Asaph, Bangor and the Vale of Glamorgan, to name but a few.

And our national pride doesn’t stop there; our performances at the BBC Proms allow us to showcase to the world the excellence produced in Wales and we look forward to flying the flag once again this summer.

A BBC National Orchestra and Chorus of Wales event is more than just a concert, and this season we launch Discover More, a series of talks, events, open rehearsals and more, all geared to get you closer to the music. We’ve kept back some particularly special moments for our subscribers, of course. If you want to know more about the BBC NOW subscriber scheme turn to page 23 for Cardiff and page 35 for Swansea, or call the Audience Line on 0800 052 1812.

I look forward to seeing you in the stalls!

Croeso i dymor cyngherddau 2014-15 Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC, eich arweinlyfr i’r gyfres cerddoriaeth glasurol fwyaf cynhwysfawr, pencampwriaethol a chyffrous yng Nghymru.

A minnau’n Gyfarwyddwr newydd y Gerddorfa, bwriais gorwynt o ddeufis cyntaf yn dod i’r afael â chwmpas aruthrol ein gweithgaredd. Felly at y tymor newydd rhoesom bopeth ynghyd mewn un llyfryn fel y gallwch chithau weld yn union beth fydd gennym ar y gweill, mewn cyngherddau, yn y stiwdio, ar daith a’r tu ôl i’r llenni. Mae cwmpas y gweithgaredd yn drawiadol ac yn tanlinellu go iawn ein rôl

yn gerddorfa genedlaethol Cymru.

O Fangor i Abertawe, o Aberystwyth i Gaerdydd, mae Cerddorfa’r BBC wrth graidd bywyd diwylliannol drwy’r wlad benbaladr, ac rydym hefyd yn falch o fod yn rhan o gynifer o wyliau gwych, yn Abergwaun, Llanelwy, Bangor a Bro Morgannwg.

Ac nid dyna derfyn ein balchder cenedlaethol; mae ein perfformiadau yn y BBC Proms yn rhoi lle i ni ddangos i’r byd y rhagoriaeth a gynhyrchir yng Nghymru ac edrychwn ymlaen at chwifio’r faner

unwaith eto yn yr haf.

Mae un o ddigwyddiadau Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC yn fwy na dim ond cyngerdd, a’r tymor yma lansiwn Darganfod Mwy, cyfres o sgyrsiau, digwyddiadau, ymarferion agored a rhagor, i gyd wedi’u llunio i chi

gael closio at y gerddoriaeth. Mae gennym wrth gefn, wrth gwrs, rai munudau arbennig

i’n tanysgrifwyr. Os ydych am gael gwybod mwy am gynllun tanysgrifwyr Cerddorfa’r BBC trowch at dudalen 23 ar gyfer Caerdydd a thudalen 35 ar gyfer Abertawe, neu roi caniad i’r Llinell Cynulleidfaoedd ar 0800 052 1812.

Edrychaf ymlaen at eich gweld yn y stalau!

Michael Garvey

Director • Cyfarwyddwr BBC National Orchestra & Chorus of Wales Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC

Page 3: BBC NOW 2014-15

1I grew up in the opera house, transfixed by what I saw and heard, so the BBC NOW ‘Voice’ season is an incredibly exciting prospect for me.

We open the season with Strauss’s Four Last Songs sung by captivating soprano Ann Petersen, and close with Mahler’s ethereal second symphony with wonderful soloists, Klara Ek and Jennifer Johnston. Of course it would not be a vocal season without the talents of the BBC National Chorus of Wales, who perform Elgar’s The Dream of Gerontius with Mark Wigglesworth, and Haydn’s The Creation with Martyn Brabbins. As well as our festive celebrations at Christmas and our traditional St David’s Day Gala (with none other than Bryn Terfel leading us in song!), I am proud to be joining the Orchestra at BBC Cardiff Singer of the World in June 2015.

We also look forward to returning to our Swansea home at the Brangwyn Hall, and what better way to celebrate than with a piano series featuring exceptional soloists Benjamin Grosvenor, Igor Levit and Stephen Hough?

My fellow Scandinavian, B Tommy Andersson, takes up the post of Composer-in-Association for the season and brings some contemporary repertoire to the fore of the Welsh classical scene. I have known Tommy’s work for a long time, and have been waiting for the right moment to share it with our audiences; in the opening and closing concerts in St David’s Hall, as well as a composer portrait in BBC Hoddinott Hall.

I have only mentioned a few of the many highlights for the coming year, so I invite you to read on, and I look forward to joining you for another year of spectacular music.

See you there!

Deuthum i oed yn y ty opera, a’r hyn a welwn ac a glywn yn fy nghyfareddu, felly mae tymor ‘Llais’ newydd Cerddorfa’r BBC yn rhywbeth rwy’n edrych ymlaen ato’n llawn cyffro byw.

Cychwynnwn y tymor â Phedair Cân Olaf Strauss a ganir gan y soprano swynol Ann Petersen, a down i ben yn ail symffoni nefolaidd Mahler gyda’r unawdwyr gwych, Klara Ek a Jennifer Johnston. Wrth reswm pawb, ni fyddai’n dymor lleisiol heb ddoniau Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC, sy’n perfformio The Dream of Gerontius Elgar gyda Mark Wigglesworth, a’r Creu gan Haydn gyda Martyn Brabbins. Ar ben ein dathliadau adeg y Nadolig a’n Gala Dydd Gwyl Dewi traddodiadol (a Bryn Terfel, neb llai, yn arwain y canu!), rwy’n falch o fod yn ymuno â’r Gerddorfa yn BBC Canwr y Byd Caerdydd ym mis Mehefin 2015.

Edrychwn ymlaen hefyd at ddychwelyd i Neuadd Brangwyn, ein cartref yn Abertawe, a pha ffordd well

o ddathlu hyn nag â chyfres piano sy’n cynnwys yr unawdwyr eithriadol Benjamin Grosvenor, Igor Levit a Stephen Hough?

Fy nghydwladwr o Lychlynnwr, B Tommy Andersson, ddaw i swydd y Cyfansoddwr Cysylltiedig am y tymor a daw â repertoire cyfoes i’r blaen ym myd clasurol Cymru. Rwy’n gyfarwydd ers tro â gwaith Tommy, a bûm yn aros yr union funud i’w rannu â’n cynulleidfaoedd, yn y cyngherddau agoriadol a therfynol yn Neuadd Dewi Sant, yn ogystal â phortread cyfansoddwr yn Neuadd Hoddinott y BBC.

Dyrnaid yn unig y soniais amdanynt o blith pigion gwych y flwyddyn sydd i ddod, felly cofiwch ddal i ddarllen, ac edrychaf ymlaen at ddod atoch chi i flwyddyn eto o gerddoriaeth aruthrol.

Welwn ni chi yno!

Thomas Søndergård

Principal Conductor • Prif Arweinydd

Page 4: BBC NOW 2014-15

BBC National Orchestra of Wales • Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBCPatron • Noddwr HRH The Prince of Wales • EUB Tywysog Cymru KG KT PC GCB

Principal Conductor • Prif Arweinydd Thomas SøndergårdConductor Laureate • Arweinydd Llawryfog Tadaaki Otaka CBE

Page 5: BBC NOW 2014-15

Composer-in-Association • Cyfansoddwr Cysylltiedig B Tommy AnderssonResident Composer • Cyfansoddwr Preswyl Mark Bowden

Leader • Blaenwr Lesley HatfieldArtistic Director, BBC National Chorus of Wales • Cyfarwyddwr Artistig, Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC Adrian

Partington

Page 6: BBC NOW 2014-15

“Totally blown away by my first experience of live classical music, the @BBCNOW were absolutely brilliant tonight at St David’s Hall”

“Gwefr bur oedd fy mhrofiad cyntaf o gerddoriaeth glasurol, roedd @BBCNOW yn aruthrol heno yn Neuadd Dewi Sant”

ST DAVID’S HALLNEUADD DEWI SANT

Page 7: BBC NOW 2014-15

Our 2014-15 season at St David’s Hall contains all of the drama, excitement and magic that you can expect from a BBC National Orchestra of Wales concert: from well-loved classics like Holst’s The Planets and Elgar’s The Dream of Gerontius, to dynamic and contemporary compositions by Mark Bowden and B Tommy Andersson.

The season is book-ended with concerts driven by Thomas Søndergård’s musical passions: opening with B Tommy Andersson’s The Garden of Delights and concluding with his Satyricon, with additions of R. Strauss’s Four Last Songs and music by Sibelius, this time his second symphony. A concert of classics sees Thomas working with Benjamin Grosvenor for the first time and our season finale will continue Thomas’s run of spectacular Mahler performances, with Symphony No 2 and brought to life by soloists Klara Ek and Jennifer Johnston.

Klara and Jennifer are just two of the incredible performers taking part in our Voice season. Our St David’s Day celebration will reach new heights in 2015 as we are joined by the incomparable Bryn Terfel and, of course, our very own Grammy-nominated BBC National Chorus of Wales.

We explore the mystery of creation through two contrasting interpretations, Haydn’s original masterpiece, and the world premiere of Resident Composer Mark Bowden’s collaboration with Welsh poet Owen Sheers.

Put simply, there is something for everyone at St David’s Hall this season, so read on, explore and we’ll see you in the hall.

Mae ein tymor 2014-15 yn Neuadd Dewi Sant yn cynnwys yr holl ddrama, cyffro a hud y gallwch eu disgwyl gan un o gyngherddau Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC: o hoff glasuron megis The Planets Holst a The Dream of Gerontius Elgar, hyd at gyfansoddiadau egnïol gan Mark Bowden a B Tommy Andersson.

Ar ddeupen y tymor mae cyngherddau sy’n ddrych o’r gerddoriaeth mae Thomas Søndergård yn frwd amdani, yn cychwyn â Gardd y Mwynderau B Tommy Andersson ac yn dod i ben yn ei Satyricon, ac ato Pedair Cân Olaf R. Strauss a cherddoriaeth gan Sibelius, y tro yma ei ail symffoni. Mewn cyngerdd o glasuron gwelwn Thomas yn gweithio gyda Benjamin Grosvenor am y tro cyntaf a bydd diweddglo ein tymor yn parhau cadwyn Thomas o berfformiadau aruthrol o Mahler, â’r Ail Symffoni gyda’r unawdwyr Klara Ek a Jennifer Johnston.

Dau yn unig ydi Klara a Jennifer o blith y perfformwyr anhygoel sy’n cymryd rhan yn ein tymor Llais. Bydd ein Gala Dydd Gwyl Dewi yn cyrraedd copaon newydd yn 2015 pan ddaw’r canwr dihafal Bryn Terfel atom ac, wrth gwrs, ein côr ni’n hunain, Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC a enwebwyd am wobr Grammy.

Chwiliwn ddirgelion y creu drwy ddau ddehongliad cyferbyniol, campwaith gwreiddiol Haydn a première byd cydweithrediad ein Cyfansoddwr Preswyl Mark Bowden â’r bardd o Gymro Owen Sheers.

Heb hel dail, mae yna rywbeth i bawb yn Neuadd Dewi Sant y tymor hwn, felly daliwch i ddarllen a chwilio ac fe’ch gwelwn ni chi yn y neuadd.

• Save up to 20%

• Get the best available seats

• Receive free programmes

Turn to page 23 for details of how to subscribe

• Arbed hyd at 20%

• Cael y seddi gorau sydd ar gael

• Cael rhaglenni am ddim

Trowch at dudalen 23 am fanylion ynghylch sut i danysgrifio

0800 052 1812 bbc.co.uk/now

C

Page 8: BBC NOW 2014-15
Page 9: BBC NOW 2014-15

THE VOICEA CELEBRATION OF THE VOICE, FROM THE LAND OF SONG

In the lead up to BBC Cardiff Singer of the World in 2015 we are thrilled to be bringing a cornucopia of international vocal force to Wales. From oratorios to arias, symphonic to solo, we will explore the voice in its many guises.

Between October and June we will be visited by an array of phenomenal soloists, and we are truly delighted to welcome Wales’s finest baritone Bryn Terfel, who will celebrate Welsh song in his own magnificent way for St David’s Day.

All this is in addition to our own Grammy-nominated BBC National Chorus of Wales who will perform Elgar’s The Dream of Gerontius and Haydn’s The Creation, and of course lead us in song for Christmas and St David’s Day.

June 2015 sees BBC Cardiff Singer of the World return to St David’s Hall, for what is set to be another magnificent display of operatic opulence. Singers from across the globe are already applying and auditioning, hoping that they can follow in the footsteps of the 2013 winner Jamie Barton:

“I want to thank the incredibly warm people of Wales. You opened your arms to 20 of us from around the world, and I think I can speak for us all in saying thank you for the memories! I cannot wait to visit you again, and I hope that day is soon!“

Ar drothwy BBC Canwr y Byd Caerdydd yn 2015 rydym wrth ein boddau o ddod â chymanfa o rym a dawn y llais o bedwar ban byd i Gymru. O oratorios i ariâu, symffonig i solo, chwiliwn y llais ar y gweddau lawer arno.

Rhwng misoedd Hydref a Mehefin bydd fflyd o unawdwyr syfrdanol yn rhoi tro amdanom a phleser pur fydd croesawu bariton mwyaf Cymru, Bryn Terfel, a fydd yn dathlu canu Cymru yn ei ffordd odidog ei hun Ddydd Gwyl Dewi.

Ar ben hyn oll, ein côr ein hunain, Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC a enwebwyd am wobr Grammy, yn perfformio The Dream of Gerontius Elgar a’r Creu gan Haydn, ac wrth gwrs yn arwain ein canu at y Nadolig a Dydd Gwyl Dewi.

Ym mis Mehefin 2015 daw BBC Canwr y Byd Caerdydd yn ôl i Neuadd Dewi Sant a does dim dwywaith na chawn sioe wych eto o gyfoeth operatig. Eisoes mae canwyr drwy’r byd yn grwn yn gwneud ceisiadau ac yn mynd i glyweliadau, gan obeithio dilyn camre enillydd 2013, Jamie Barton:

“Mae arnaf eisiau diolch i’r Cymry anhygoel o gynnes. Fe agoroch eich breichiau i ugain ohonom o bedwar ban byd ac, ar ran pob un ohonom, meddaf Diolch i chi am yr atgofion! Rwy’n ysu am gael rhoi tro amdanoch eto, a brysied y dydd!“

Y LLAISGWLAD Y GÂN YN MORIO YN Y LLAIS

Page 10: BBC NOW 2014-15

B Tommy Andersson The Garden of Delights ◆ Gardd y MwynderauR. Strauss Four Last Songs ◆ Pedair Cân OlafSibelius Symphony No 2 ◆ Symffoni Rhif 2

Sibelius’s Second Symphony, one of his most fiercely nationalistic works, is the highlight of Principal Conductor Thomas Søndergård’s first concert of the season. It’s paired with B Tommy Andersson’s The Garden of Delights, which takes inspiration from a painting by the Dutch artist Bosch. In between, Danish soprano Ann Petersen sings the last four songs by Richard Strauss, which hint at his foreboding illness and consequent death, matched with his own climactic creative surge.

Gellid dadlau bod Ail Symffoni Sibelius yn un o’i weithiau mwyaf ffyrnig o genedlgarol a dyna uchafbwynt cyngerdd cynta’r Prif Arweinydd Thomas Søndergård y tymor yma. Ei chymar ydi Gardd y Mwynderau B Tommy Andersson a ysbrydolwyd gan lun gan yr artist o’r Iseldiroedd, Bosch. Rhwng y ddau, cana’r soprano o Ddenmarc Ann Petersen y Pedair Cân Olaf gan Richard Strauss, sy’n awgrymu’r salwch oedd yn ei fygwth a’i farw canlynol, ar frig ei don greadigol ddihafal.

Conductor • Arweinydd Thomas SøndergårdSoprano Ann Petersen

03.10.14 - 7.30pm

FOUR LAST SONGS SØNDERGÅRDWITH GYDA

6.30PMFirst Night Reception with BBC NOW Director Michael Garvey, and members of the Orchestra • Croeso’r Noson Gyntaf yng nghwmni Cyfarwyddwr Cerddorfa’r BBC yng Nghymru Michael Garvey, ac aelodau o’r Gerddorfa

POST-CONCERT • WEDI’R CYNGERDDPrincipal Conductor Thomas Søndergård and Composer-In-Association B Tommy Andersson in conversation Y Prif Arweinydd Thomas Søndergård a’r Cyfansoddwr Cysylltiedig B Tommy Andersson yn sgwrsio

Page 11: BBC NOW 2014-15

Elgar The Dream of Gerontius

Elgar was always fascinated by the poem by John Henry Newman, depicting the journey of Gerontius from his deathbed to his judgement before God. In this masterpiece, the Chorus play multiple roles in the story – as angels, friends, souls in purgatory, and even demons. English tenor Andrew Kennedy sings the role of Gerontius and Swedish soprano Anna Larsson plays the Angel, guiding Gerontius on his journey.

Roedd cerdd John Henry Newman, yn darlunio taith Gerontius o’i wely angau i’w farnu gerbron Duw, bob amser yn cyfareddu Elgar. Yn y campwaith yma mae’r Corws yn chwarae amryfal rannau yn y stori – yn angylion, yn gyfeillion, yn eneidiau yn y purdan, a hyd yn oed yn gythreuliaid. Y tenor o Sais Andrew Kennedy sy’n canu rôl Gerontius, a’r soprano o Sweden Anna Larsson yn chwarae’r Angel, yn tywys Gerontius ar ei daith.

Conductor • Arweinydd Mark Wigglesworth Tenor Andrew Kennedy Mezzo Anna Larsson Bass • Baswr Neal DaviesBBC National Chorus of Wales • Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC

07.11.14 - 7.30pm

THE DREAM OF GERONTIUS

6.30PMPre-concert talk • Sgwrs cyn y cyngerdd

Page 12: BBC NOW 2014-15

Back by popular demand; our Halloween Spooktacular offers tricks and treats for all the family. Join us for an afternoon full of some of the spookiest music ever written by composers including Saint-Saëns, Dukas, Grieg and John Williams. Enjoy a variety of pre-concert activities followed by a concert packed full of eerie classics we know you will love. Wear your Halloween costume, we dare you!This concert will feature members of the National Youth Orchestra of Wales performing side by side with our musicians.

Suggested age: 5 and over

O fawr alw amdani, dyma ein Nos Glangaea Bwgandibethma yn ei hôl yn cynnig cast ynteu ceiniog i’r teulu i gyd. Dewch aton ni i bnawn a’i lond o’r gerddoriaeth fwyaf bwganllyd a sgrifennwyd erioed gan gyfansoddwyr sy’n cynnwys Saint-Saëns, Dukas, Grieg a John Williams. Gewch chi hwyl mewn amrywiaeth o weithgareddau cyn y cyngerdd wedyn y cyngerdd ei hun yn heigio gan glasuron annaearol fydd wrth eich bodd does dim dau. Rhowch eich gwisg Nos Glangaea amdanoch – gamp i chi! Bydd y cyngerdd yma’n cynnwys aelodau o Gerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru yn perfformio ochr yn ochr â’n cerddorion ni.

Oed a awgrymir: 5 oed a throsodd

26.10.14 - 3pm

HALLOWEEN SPOOKTACULAR NOS GLANGAEA

BWGANDIBETHMAConductor • Arweinydd Grant Llewellyn

BBC National Orchestra of Wales • Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBCNational Youth Orchestra of Wales • Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru

Get into the chill of things with fancy dress and face painting Mynd i’r hwyl â gwisg ffansi a phaentio wynebau

Page 13: BBC NOW 2014-15

CHRISTMAS CELEBRATIONS DATHLU’R NADOLIG

18.12.14 - 7.30pm

Start your Christmas countdown with our ever-popular Christmas Celebrations. The concert offers a gift-wrapped selection of musical gems and a journey through winter wonderland. Packed full of festive treats, enjoy highlights including Leroy Anderson’s Sleigh Ride, music from the frost tale of Rimsky-Korsakov’s The Snow Maiden and sing-along to all your Christmas favourites.

Treat your friends and family to an early Christmas present – sure to get you all into the Christmas mood. Come and join the celebrations!

Dechreuwch hwylio at y Nadolig â’n cyngerdd bythol-boblogaidd Dathlu’r Nadolig. Mae yma ddewis dengar o emau cerddorol a thaith drwy wlad hud gefn gaeaf. Dyma noson yn heigio o bethau da, gan gynnwys Sleigh Ride Leroy Anderson, cerddoriaeth o hanes iasoer Y Forwyn Eira Rimsky-Korsakov a gewch chi forio canu eich holl ffefrynnau Nadolig. Rhowch anrheg Nadolig cyn pryd i’ch ffrindiau a’ch teulu – gael i chi i gyd fynd i hwyliau’r Nadolig. Dewch heibio ac ymuno yn y miri!

Conductor • Arweinydd Edwin OutwaterBBC National Chorus of Wales • Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC

Enjoy Christmas music and entertainment Cael blas ar gerddoriaeth a difyrrwch Nadolig

Page 14: BBC NOW 2014-15

Haydn Symphony No 28 • Symffoni Rhif 28Beethoven Piano Concerto No 1 • Concerto Piano Rhif 1Mozart Symphony No 41 • Symffoni Rhif 41 ‘Jupiter’

Young British pianist Benjamin Grosvenor has been dazzling audiences worldwide since his appearance on BBC Young Musician in 2004, when he was just eleven. We welcome him back to Cardiff for his first collaboration with Thomas Søndergård, and a performance of Beethoven’s Piano Concerto No 1.

“I’m particularly looking forward this concert, which has a truly classical air, with Haydn’s Symphony No 28 and Mozart’s Symphony No 41, ‘Jupiter’.” Thomas Søndergård

Byth ers iddo ymddangos ar Cerddor Ifanc y BBC yn 2004, pan oedd yn ddim ond un mlwydd ar ddeg, mae’r pianydd ifanc o Brydain Benjamin Grosvenor yn syfrdanu cynulleidfaoedd drwy’r byd yn grwn. Estynnwn groeso’n ôl iddo i Gaerdydd i gydweithio â Thomas Søndergård am y tro cyntaf mewn perfformiad o Concerto Piano Cyntaf Beethoven.

“Rwy’n edrych ymlaen yn arbennig at y cyngerdd yma, ac iddo naws wirioneddol glasurol, ac ynddo Symffoni Rhif 28 Haydn a Symffoni Rhif 41 Mozart, ‘Jupiter’.” Thomas Søndergård

Conductor • Arweinydd Thomas SøndergårdPiano Benjamin Grosvenor

05.02.15 - 7.30pm

THOMAS SØNDERGÅRD & BENJAMIN GROSVENOR

POST-CONCERT • WEDI’R CYNGERDDPrincipal Conductor Thomas Søndergård in conversation • Y Prif Arweinydd Thomas Søndergård yn sgwrsio

Page 15: BBC NOW 2014-15
Page 16: BBC NOW 2014-15

Conductor • Arweinydd Gareth JonesBass-Baritone • Bariton-Baswr Bryn TerfelBBC National Chorus of Wales • Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC

01.03.15 - 3pm

ST DAVID’S DAY GALA GALA DYDD GW ˆ YL DEWI

St David’s Day 2015 promises to be a remarkable occasion as the Orchestra and Chorus are joined in St David’s Hall by acclaimed Welsh baritone Bryn Terfel. Together we will celebrate the music of Wales through song, as Bryn performs some of the music closest to his heart. He will be joined by some of the stars of the future, bringing a joyful “hwyl” to our festivities.

This event is always hugely popular so please book early to secure the best seats!

Mae Dydd Gwyl Dewi 2015 yn addo’n deg bod yn achlysur arbennig pan ddaw’r bariton o Gymro mawr ei glod Bryn Terfel at y Gerddorfa a’r Corws yn Neuadd Dewi Sant. Gyda’n gilydd dathlwn gerddoriaeth Cymru drwy gân, a Bryn yn perfformio peth o’r gerddoriaeth sydd nesaf at ei galon. Ato daw rhai o sêr dydd a ddaw gan ddwyn hwyl go iawn at ein dathliadau.

Cofiwch: mae’r digwyddiad yma bob amser yn aruthrol o boblogaidd felly cadwch le’n gynnar i gael y seddi gorau!

Immerse in Welsh tradition with pre-concert, interval and post-concert music and entertainment Ymgolli yn nhraddodiad Cymru mewn cerddoriaeth a difyrrwch cyn y cyngerdd, yn yr egwyl ac wedi’r cyngerdd

Page 17: BBC NOW 2014-15

“Most of the people in the audience here, including this critic...wished to wallow in their Welshness, confirm their Celtic credentials and kiss away a couple of hours of hwyl, if not

hiraeth.”

“Roedd y rhan fwyaf o’r bobol yn y gynulleidfa yma, gan gynnwys y beirniad hwn...am forio yn eu Cymreictod, cadarnhau eu bod yn Geltiaid o waed coch cyfan a bwrw dwyawr o hwyl, os nad hiraeth.”

Peter Collins, Western Mail

Page 18: BBC NOW 2014-15

“FROM THE CELESTIAL VAULTS PURE HARMONY DESCENDS ON RAVISHED EARTH.”Part III, Haydn’s The Creation Y Drydedd Ran, Y Creu gan Haydn

CREATIONY CREU

Over the years, many composers have been influenced by the origins of the universe – with Haydn famously taking inspiration from Genesis in his Creation oratorio.

In the opening, The Representation of Chaos, Haydn uses dissonance that, although unremarkable to modern audiences, was shocking to 18th century listeners. When the bass soloist opens with the first words of the Bible, however, harmony is restored – and the work takes listeners on a journey through the six days of creation, and subsequently the story of Adam and Eve.

Haydn’s Creation is also influenced by his experience with Herschel’s telescope. As the Orchestra’s Resident Composer Mark Bowden explains: “The opening section of The Creation refers to the representation of chaos; this might have been an idea from Herschel who explained to Haydn how the stars formed. Haydn was one of the few non-scientists to look through Herschel’s telescope to see as far as anybody had ever seen into the heavens.”

Science, however, has come a long way since The Creation was written. This season sees Mark Bowden collaborate with Welsh writer Owen Sheers to create a new work depicting the origins of the universe – entitled A Violence of Gifts – taking the latest scientific research from the Large Hadron Collider at CERN as inspiration. This project is also supported by the Jerwood Foundation.

As Owen described to the Arts@CERN programme, “In the very first conversations, when Mark mentioned that this would be to some extent related to Haydn’s Creation, I was aware that he was responding to the Biblical narrative of the Creation. Moreover, we discussed about The Planets by Holst and the way in which his work reflects on how the planets are represented in Roman myths”.

Mark and Owen arranged to spend a couple of days at the Large Hadron Collider for research, to get a clear sense of the character of scientific narrative. Owen says “My mind was constantly stretched between the extremes of scale; talking about the universe and then about the Quark Gluon Plasma.”

The Creation theme continues into our BBC Hoddinott Hall season, with three different representations. Rebel’s Les Éléments uses dissonance to represent chaos, before the Orchestra depicts the elements of earth, wind, air and fire; Milhaud’s La création du monde takes inspiration from African folk mythology; and Ginastera’s Popol Vuh is a ballet based on Mayan beliefs, as described by ancient manuscripts.

Page 19: BBC NOW 2014-15

Dros y blynyddoedd dylanwadodd dechreuad y bydysawd ar gyfansoddwyr lawer ac fel sydd hysbys Genesis a ysbrydolodd Haydn yn ei oratorio’r Creu.

Yn y dechrau, The Representation of Chaos, defnyddia Haydn anghyseinedd, fawr i gynulleidfaoedd modern synnu ato ond roedd yn ysgytiol i wrandawyr y ddeunawfed ganrif. Pan gychwynna’r unawdydd bas â geiriau cyntaf y Beibl, fodd bynnag, daw cytgord drachefn - a’r gwaith yn mynd â’r gwrandawyr ar daith drwy chwe diwrnod y creu, ac wedyn stori Adda ac Efa.

Dylanwad arall ar Y Creu Haydn oedd ei brofiad gyda thelesgop Herschel. Fel yr eglura Cyfansoddwr Preswyl y Gerddorfa Mark Bowden: “Mae adran agoriadol Y Creu yn cyfeirio at ddarlunio anhrefn; efallai mai syniad gan Herschel oedd hwn, a eglurodd i Haydn sut y ffurfir y sêr. Haydn oedd un o’r ychydig o bobol oedd heb fod yn wyddonwyr a edrychodd drwy delesgop Herschel a gweld cyn belled ag a welodd neb erioed i’r ffurfafen.”

Ond cerddodd gwyddoniaeth ymhell ers sgrifennu’r Creu. Y tymor yma gwelir cydweithio Mark Bowden â’r llenor o Gymro Owen Sheers i greu gwaith newydd yn portreadu dechreuad y bydysawd - o’r enw A Violence of Gifts - a ysbrydolwyd gan yr ymchwil wyddonol ddiweddaraf o’r Gwrthdrawydd Hadronau Mawr yn CERN. Cefnogir y fenter yma hefyd gan Sefydliad Jerwood.

Ys dywedodd Owen wrth raglen Arts@CERN, “Yn y sgyrsiau cyntaf un, pan soniodd Mark y byddai hyn i ryw raddau ynghlwm â’r Creu gan Haydn, gwyddwn ei fod yn ymateb i hanes y creu yn ôl y Beibl. At hynny buom yn trafod The Planets gan Holst a’r ffordd y mae ei waith yn myfyrio uwch ddarlunio’r planedau mewn mythau Rhufeinig.”

Trefnodd Mark ac Owen dreulio deuddydd yn y Gwrthdrawydd Hadronau Mawr i ymchwilio, i gael dirnadaeth glir o anian naratif gwyddonol. Meddai Owen “Ymestynnid fy meddwl byth a hefyd rhwng eithafion graddfa, yn sôn am y bydysawd ac wedyn am y Plasma Cwarc a Glwon.”

Bydd thema’r Creu yn dal i fynd yn ein tymor yn Neuadd Hoddinott y BBC ar dair gwedd wahanol. Defnyddia Les Éléments Rebel anghyseinedd i gynrychioli anhrefn, cyn i’r Gerddorfa ddarlunio elfennau’r ddaear, y gwynt, awyr a thân; ysbrydolwyd La création du monde Milhaud gan fytholeg gwerin Affrica; a ballet ydi Popol Vuh Ginastera wedi’i seilio ar gredoau’r Maiaid, yn ôl disgrifiadau llawysgrifau hynafol.

Mark Bowden A Violence of Gifts 18.04.15 St David’s Hall • Neuadd Dewi Sant

Afternoon with • Prynhawn yng nghwmni Stefan Asbury 21.04.15 BBC Hoddinott Hall • Neuadd Hoddinott y BBC

Haydn The Creation • Y Creu 08.05.15 St David’s Hall • Neuadd Dewi Sant

bbc.co.uk/now 0800 052 1812

Page 20: BBC NOW 2014-15

Mark Bowden A Violence of GiftsHolst The Planets

BBC NOW’s Resident Composer Mark Bowden takes inspiration from the latest scientific findings about the origins of the universe, as he composes an alternative creation to Haydn’s classic, with a libretto by Welsh poet Owen Sheers. It’s paired with Holst’s vivacious and powerful Planets suite, depicting the characteristics of Earth’s neighbours in the solar system.

Y darganfyddiadau diweddaraf am ddechreuad y bydysawd a ysbrydolodd Gyfansoddwr Preswyl Cerddorfa’r BBC Mark Bowden i gyfansoddi hanes y creu sydd fymryn yn wahanol i glasur Haydn, yn rhoi ar gân libreto gan y bardd o Gymro Owen Sheers. Mae’n gymar cyfres Planets fywiog a grymus Holst, sy’n tynnu llun priodoleddau cymdogion y Ddaear yn y gyfundrefn heulog.

Conductor • Arweinydd Martyn BrabbinsBaritone • Bariton Roderick WilliamsBBC National Chorus of Wales • Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC

18.04.15 - 7.30pm

THE PLANETS

6.30PMAstronomical Extravaganza, explore the stars with BBC NOW Strafagansa Seryddol, fforiwch y sêr yng nghwmni Cerddorfa’r BBC yng Nghymru

POST-CONCERT • WEDI’R CYNGERDDIn conversation with Mark Bowden and Owen Sheers • Yn sgwrsio â Mark Bowden ac Owen Sheers

Page 21: BBC NOW 2014-15

“When I think of God, I can only write joyful music” said Joseph Haydn when he began the feat of composition many considered to be his masterpiece. Taking collective inspiration from Genesis, the Psalms, John Milton’s epic poem, Paradise Lost, and Handel’s Messiah, The Creation is a work of musical invention, a sensational, biblical homage to our living world.

“Pan feddyliaf am Dduw, ni allaf ond ysgrifennu cerddoriaeth lawen,” meddai Joseph Haydn pan gychwynnodd ar yr orchest gyfansoddi roedd llawer yn ei hystyried ei gampwaith. Ysbrydolwyd Y Creu gan Genesis, y Salmau, arwrgerdd John Milton, Paradise Lost, a Messiah Handel ar y cyd ac mae’n waith o ddyfeisgarwch cerddorol, yn deyrnged Feiblaidd ysblennydd i’n byd byw.

Conductor • Arweinydd Stephen LaytonBass • Baswr Neal Davies Tenor Jeremy Ovenden Soprano Elizabeth WattsBBC National Chorus of Wales • Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC

08.05.15 - 7.30pm

THE CREATIONHaydn The Creation • Y Creu

“WHEN I THINK OF GOD,I CAN ONLY WRITEJOYFUL MUSIC” Joseph Haydn

6.30PMThe origins of life with BBC NOW • Dechreuad bywyd yng nghwmni Cerddorfa’r BBC yng Nghymru

Page 22: BBC NOW 2014-15
Page 23: BBC NOW 2014-15

6.30PMLast Night Reception with Michael Garvey and members of the Orchestra Croeso’r Noson Olaf yng nghwmni Michael Garvey, ac aelodau o’r Gerddorfa

POST-CONCERT • WEDI’R CYNGERDDPrincipal Conductor Thomas Søndergård in conversation • Y Prif Arweinydd Thomas Søndergård yn sgwrsio

MAHLER 2 SØNDERGÅRD

05.06.15 - 7.30pm

B Tommy Andersson SatyriconMahler Symphony No 2 ‘Resurrection’ ◆ Symffoni Rhif 2 ‘Atgyfodiad’

Thomas Søndergård closes our St David’s Hall season with Mahler’s ‘Resurrection’ Symphony, summoning the full force of the Orchestra and Chorus to conjure the afterlife through music.

It’s paired with B Tommy Andersson’s Satyricon, a piece inspired by the tales of three young men in Ancient Rome. Written by the Latin author Petronius, it chronicles the amusing and sometimes risqué adventures of the lead character Encolpius. The rhythmic and extroverted music paints a picture of the scene, ending with, in the composer’s words, “a grotesque dance, wild and noisy”.

Terfyna Thomas Søndergård ein tymor yn Neuadd Dewi Sant â Symffoni ‘Atgyfodiad’ Mahler, sy’n mwstro lluoedd llawn y Gerddorfa a’r Corws i ddeffro ar gerdd y byd a ddaw ar gerdd.

Satyricon B Tommy Andersson ydi ei chymar, darn a ysbrydolwyd gan hanesion tri gwr ifanc yn Rhufain yr Henfyd. O law’r awdur Lladin Petronius, mae’n croniclo anturiaethau difyr, ac weithiau risqué, y prif gymeriad Encolpius. Mae’r gerddoriaeth rythmig a hwyliog yn tynnu llun yr olygfa, gan ddod i ben, chwedl y cyfansoddwr, “mewn dawns grotésg, wyllt a swnllyd”.

Conductor • Arweinydd Thomas SøndergårdSoprano Klara EkMezzo Jennifer JohnstonBBC National Chorus of Wales • Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC

WITH GYDA

Page 24: BBC NOW 2014-15

0800 052 1812 bbc.co.uk/now

Page 25: BBC NOW 2014-15

23CARDIFF SUBSCRIPTIONS TANYSGRIFIADAU CAERDYDDBecome a Subscriber and experience the BBC National Orchestra of Wales concert season at its very best!

Save money, have your pick of the seats, enjoy extra benefits and put all the dates in your diary now so you can simply sit back and lose yourself in the music.

All subscribers enjoy…

• A truly portable subscription, saving up to 20% off the cost of tickets for any of our concerts*

• Free programmes

• Free tickets for Contemporary concerts at BBC Hoddinott Hall

• Tickets for Discover More and Discover More + events

Subscribe to all 8 concerts and receive…

• 20% off the cost of tickets for any of our concerts*

• A £12 merchandise voucher

• 50% off two BBC Hoddinott Hall concerts of your choice

• 20% off the cost of tickets for Halloween Spooktacular and concerts at other venues

Subscribe to 4-7 concerts and receive…

• 15% off the cost of tickets for any of our concerts*

• 50% off one BBC Hoddinott Hall concert of your choice

• 15% off the cost of tickets for Halloween Spooktacular and concerts at other venues

*excludes festivals, BBC Proms and external promotions

Dewch yn Danysgrifiwr a phrofi tymor cyngherddau Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC ar ei orau oll!

Arbedwch arian, cael eich dewis seddi, manteision dros ben a chael rhoi’r dyddiadau i gyd yn eich dyddiadur nawr fel y gallwch eistedd yn ôl ac ymgolli yn y gerddoriaeth.

Mae tanysgrifwyr i gyd yn cael…

• Tanysgrifiad gwirioneddol symudol, a phris tocynnau hyd at 20% yn rhatach i unrhyw un o’n cyngherddau*

• Rhaglenni am ddim

• Tocynnau am ddim i gyngherddau Cyfoes yn Neuadd Hoddinott y BBC

• Tocynnau i ddigwyddiadau Darganfod Mwy a Darganfod Mwy +

Tanysgrifiwch i bob un o’r 8 cyngerdd a chael…

• Pris tocynnau 20% yn rhatach i unrhyw un o’n cyngherddau*

• Tocyn nwyddau £12

• Dau gyngerdd arall o’ch dewis yn Neuadd Hoddinott y BBC 50% yn rhatach

• Pris tocynnau Nos Glangaea Bwgandibethma a chyngherddau mewn oedfannau eraill 20% yn rhatach

Tanysgrifiwch i 4-7 cyngerdd a chael…

• Pris tocynnau 15% yn rhatach i unrhyw un o’n cyngherddau*

• Un cyngerdd arall o’ch dewis yn Neuadd Hoddinott y BBC 50% yn rhatach

• Pris tocynnau Nos Glangaea Bwgandibethma a chyngherddau mewn oedfannau eraill 15% yn rhatach

*ac eithrio gwyliau, BBC Proms a hyrwyddiadau allanol

Call the BBC National Orchestra of Wales Audience Line FREE on 0800 052 1812

Rhowch ganiad i Linell Cynulleidfaoedd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC AM DDIM ar 0800 052 1812

Page 26: BBC NOW 2014-15

DISCOVER MORE DARGANFOD MWY This season we introduce Discover More to our concerts, a series of talks, events, open rehearsals and more, all designed to get you closer to the music.

All Discover More events are free for concert ticket holders, just call the Audience Line to reserve your space on 0800 052 1812.

Y tymor yma byddwn yn cyflwyno Darganfod Mwy i’n cyngherddau, cyfres o sgyrsiau, digwyddiadau, ymarferion agored a mwy, i gyd wedi’u llunio er mwyn i chi glosio at y gerddoriaeth.

Mae digwyddiadau Darganfod Mwy am ddim i ddeiliaid tocynnau cyngherddau, does rhaid i chi ond rhoi caniad i’r Llinell Cynulleidfaoedd ar 0800 052 1812 i gadw’ch lle.

Highlights include: Mae’r uchelfannau’n cynnwys:

03.10.14 - POST-CONCERT • WEDI’R CYNGERDD St David’s Hall • Neuadd Dewi Sant Principal Conductor Thomas Søndergård and Composer-in-Association B Tommy Andersson in conversation Y Prif Arweinydd Thomas Søndergård a’r Cyfansoddwr Cysylltiedig B Tommy Andersson yn sgwrsio

27.11.14 - 6.30PM Theatr Brycheiniog, Brecon • Theatr Brycheiniog, Aberhonddu Pre-concert talk and meet the orchestra • Sgwrs cyn y cyngerdd a chyfarfod y gerddorfa

17.04.15 - 6.30PM Brangwyn Hall • Neuadd Brangwyn Astronomical Extravaganza. Explore the stars with BBC NOW. Strafagansa Seryddol. Fforiwch y sêr yng nghwmni Cerddorfa’ BBC yng Nghymru

08.05.15 - 6.30PM St David’s Hall • Neuadd Dewi Sant The origins of life with BBC NOW • Dechreuad bywyd yng nghwmni Cerddorfa’r BBC yng Nghymru

15.05.15 - 6.30PM Brangwyn Hall • Neuadd Brangwyn Talk: In the words of BBC NOW players • Sgwrs: Yng ngeiriau chwaraewyr Cerddorfa’r BBC yng Nghymru

05.06.15 - POST-CONCERT • WEDI’R CYNGERDD St David’s Hall • Neuadd Dewi Sant Principal Conductor Thomas Søndergård in conversation • Y Prif Arweinydd Thomas Søndergård yn sgwrsio

Keep your eyes peeled for extra events, open rehearsals and more, added as our season continues. Check bbc.co.uk/now for added dates!

Cadwch eich llygaid ar agor am ddigwyddiadau dros ben, ymarferion agored a rhagor, a ychwanegir fel yr â’n tymor rhagddo. Bwriwch olwg ar bbc.co.uk/now am oedau eto!

18.04.15 - POST-CONCERT • WEDI’R CYNGERDD St David’s Hall • Neuadd Dewi Sant

Composer Mark Bowden and acclaimed poet Owen Sheers join us to discuss Mark’s BBC Radio 3 Commission, A Violence of Gifts, so seize the unique chance to discuss the composition and capture your first reaction.

Y cyfansoddwr Mark Bowden a’r bardd mawr ei glod Owen Sheers yn dod atom i drafod Darn Comisiwn Mark i BBC Radio 3, A Violence of Gifts, felly bachwch ar y cyfle i drafod y cyfansoddiad ar ôl eich adwaith cyntaf.

Page 27: BBC NOW 2014-15

Discover More + Exclusively for our subscribers, these events acknowledge the special relationship between the Orchestra and our regular concertgoers.

Darganfod Mwy + I’n tanysgrifwyr yn unig y mae’r digwyddiadau hyn sy’n cydnabod y berthynas arbennig rhwng y Gerddorfa a’n cyngherddwyr rheolaidd.

03.10.14 - 6.30PM St David’s Hall • Neuadd Dewi Sant First Night Reception with BBC NOW Director Michael Garvey, and members of the Orchestra Croeso’r Noson Gyntaf yng nghwmni Cyfarwyddwr Cerddorfa’r BBC yng Nghymru Michael Garvey, ac aelodau o’r Gerddorfa

04.02.15 - POST-CONCERT • WEDI’R CYNGERDD Brangwyn Hall • Neuadd Brangwyn Drinks with Principal Conductor Thomas Søndergård and BBC NOW Director Michael Garvey. Diodydd gyda’r Prif Arweinydd Thomas Søndergård a Chyfarwyddwr Cerddorfa’r BBC yng Nghymru Michael Garvey

05.06.15 - 6.30PM St David’s Hall • Neuadd Dewi Sant Last Night Reception with Michael Garvey and members of the Orchestra Croeso’r Noson Olaf yng nghwmni Michael Garvey ac aelodau o’r Gerddorfa

12.06.15 - POST-CONCERT • WEDI’R CYNGERDD Brangwyn Hall • Neuadd Brangwyn Last Night Reception with Michael Garvey and Thomas Søndergård Croeso’r Noson Olaf yng nghwmni Michael Garvey a Thomas Søndergård

Page 28: BBC NOW 2014-15

BRANGWYN HALLNEUADD BRANGWYN

Page 29: BBC NOW 2014-15

Autumn 2014 heralds our return to the Brangwyn Hall, as we head back towards the sea and the rich, warm acoustics of our Swansea home.

The first performances back in the Brangwyn will be part of the Swansea Festival of Music & the Arts (see page 60 for more information). Then we head straight into our main season, starting with Christmas Celebrations in December – the perfect festive tonic.

In spring 2015, Principal Conductor Thomas Søndergård returns for the start of his Piano Series, exploring well-loved works with world-class soloists. Swansea favourite Benjamin Grosvenor will perform Beethoven’s First Piano Concerto, Igor Levit will dazzle in Tchaikovsky’s First and Stephen Hough will round the season off with Beethoven’s Third.

Other highlights include Holst’s The Planets with Martyn Brabbins and a performance by violinist Chloë Hanslip.

And of course, with Discover More you can get even closer to the music with pre-concert events and talks. See pages 24 and 25 for more details.

• Save 20%

• Get the best available seats

• Receive free programmes

Turn to page 35 for details of how to subscribe

Yn hydref 2014 awn yn ein holau i Neuadd Brangwyn, a ninnau’n ei chychwyn hi’n ôl tua’r môr ac acwsteg gynnes, soniarus ein cartref yn Abertawe.

Rhan o Wyl Cerddoriaeth a’r Celfyddydau Abertawe fydd y perfformiadau cyntaf yn ôl yn y Brangwyn (gweler rhagor o wybodaeth ar dudalen 60). Wedyn awn ar ein pennau i’n prif dymor, yn cychwyn â Dathlu’r Nadolig ym mis Rhagfyr – hwyl dan gamp yn eli i’r galon.

Yng ngwanwyn 2015, daw’r Prif Arweinydd Thomas Søndergård yn ei ôl i gychwyn ei Gyfres Piano, yn chwilio hoff weithiau o’r repertoire, gydag unawdwyr gwych. Bydd un o ffefrynnau Abertawe, Benjamin Grosvenor, yn perfformio Concerto Piano Cyntaf Beethoven, Igor Levit yn syfrdanu yn Concerto Cyntaf Tchaikovsky a Stephen Hough yn cau pen y mwdwl â Thrydydd Concerto Beethoven.

Ymhlith uchelfannau eraill bydd The Planets Holst gyda Martyn Brabbins a pherfformiad gan ffidler Chloë Hanslip.

Ac wrth gwrs yn Darganfod Mwy gewch chi glosio fwy fyth at y gerddoriaeth mewn digwyddiadau a sgyrsiau cyn cyngherddau. Gweler mwy o fanylion ar dudalennau 24 a 25.

• Arbed hyd at 20%

• Cael y seddi gorau sydd ar gael

• Cael rhaglenni am ddim

Trowch at dudalen 35 am fanylion ynghylch sut i danysgrifio

0800 052 1812 bbc.co.uk/now

B

Page 30: BBC NOW 2014-15

19.12.14 - 7.30pm

Start your Christmas countdown with our ever-popular Christmas Celebrations. The concert offers a gift-wrapped selection of musical gems and a journey through winter wonderland. Packed full of festive treats, enjoy highlights including Leroy Anderson’s Sleigh Ride, music from the frost tale of Rimsky-Korsakov’s The Snow Maiden and sing-along to all your Christmas favourites.

Treat your friends and family to an early Christmas present - sure to get you all into the Christmas mood. Come and join the celebrations!

Dechreuwch hwylio at y Nadolig â’n cyngerdd bythol-boblogaidd Dathlu’r Nadolig. Mae yma ddewis dengar o emau cerddorol a thaith drwy wlad hud gefn gaeaf. Dyma noson yn heigio o bethau da, gan gynnwys Sleigh Ride Leroy Anderson, cerddoriaeth o hanes iasoer Y Forwyn Eira Rimsky-Korsakov a gewch chi forio canu eich holl ffefrynnau Nadolig. Rhowch anrheg Nadolig cyn pryd i’ch ffrindiau a’ch teulu – gael i chi i gyd fynd i hwyliau’r Nadolig. Dewch heibio ac ymuno yn y miri!

CHRISTMAS CELEBRATIONS DATHLU’R NADOLIGConductor • Arweinydd Edwin OutwaterBBC National Chorus of Wales • Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC

Enjoy Christmas music and entertainment Cael blas ar gerddoriaeth a difyrrwch Nadolig

Page 31: BBC NOW 2014-15

Haydn Symphony No 28 • Symffoni Rhif 28Beethoven Piano Concerto No 1 • Concerto Piano Rhif 1Mozart Symphony No 41 • Symffoni Rhif 41 ‘Jupiter’

04.02.15 - 7.30pm

BEETHOVEN & MOZART

Conductor • Arweinydd Thomas SøndergårdPiano Benjamin Grosvenor

Young British pianist Benjamin Grosvenor has been dazzling audiences worldwide since his appearance on BBC Young Musician in 2004, when he was just eleven. We welcome him back to Swansea for his first collaboration with Thomas Søndergård, and a performance of Beethoven’s Piano Concerto No 1.

“I’m particularly looking forward this concert, which has a truly classical air, with Haydn’s Symphony No 28 and Mozart’s Symphony No 41, ‘Jupiter’.” Thomas Søndergård

Byth ers iddo ymddangos ar Cerddor Ifanc y BBC yn 2004, pan oedd yn ddim ond un mlwydd ar ddeg, mae’r pianydd ifanc o Brydain Benjamin Grosvenor yn syfrdanu cynulleidfaoedd drwy’r byd yn grwn. Estynnwn groeso’n ôl iddo i Abertawe i gydweithio â Thomas Søndergård am y tro cyntaf mewn perfformiad o Concerto Piano Cyntaf Beethoven.

“Rwy’n edrych ymlaen yn arbennig at y cyngerdd yma, ac iddo naws wirioneddol glasurol, ac ynddo Symffoni Rhif 28 Haydn a Symffoni Rhif 41 Mozart, ‘Jupiter’.” Thomas Søndergård

6.30PMTalk: In the words of BBC NOW players • Sgwrs: Yng ngeiriau chwaraewyr Cerddorfa’r BBC yng Nghymru

POST-CONCERT • WEDI’R CYNGERDDDrinks with Principal Conductor Thomas Søndergård and BBC NOW Director Michael Garvey • Diodydd gyda’r Prif Arweinydd Thomas Søndergård a Chyfarwyddwr Cerddorfa’r BBC yng Nghymru Michael Garvey

Page 32: BBC NOW 2014-15

Tchaikovsky Piano Concerto No 1 • Concerto Piano Rhif 1Shostakovich Symphony No 10 • Symffoni Rhif 10

12.03.15 - 7.30pm

TCHAIKOVSKY & SHOSTAKOVICH

For the second concert in our piano series, we welcome Igor Levit for Tchaikovsky’s thrillingly romantic first piano concerto. Little did Tchaikovsky know, when composing its recognisable opening chords, that he’d created a work that would become the first classical song to sell a million records.

Shostakovich’s tenth symphony is considered by most to be a depiction of Stalin’s rule of Russia. It is testament to the composer’s legacy of music that chronicles one of the most turbulent reigns in recent history, inspiring in its ability to find optimism in the bleakest of situations.

Ar ail noson ein cyfres piano, rhown groeso i Igor Levit ar gyfer concerto piano cyntaf gwefreiddiol o ramantaidd Tchaikovsky. Bychan a wyddai Tchaikovsky, pan oedd yn sgrifennu ei gordiau agoriadol trawiadol, iddo greu gwaith a ddeuai’r gân glasurol gyntaf i werthu miliwn o recordiau.

Mae’r rhan fwyaf o bobol yn ystyried mai darlun o deyrnasiad Stalin yn Rwsia ydi Degfed Symffoni Shostakovich. Mae’n dyst i gynhysgaeth y cyfansoddwr o gerddoriaeth sy’n croniclo un o’r teyrnasiadau mwyaf terfysglyd mewn hanes diweddar, sy’n ysbrydoli o ran gallu cael gobaith yn y sefyllfaoedd llymaf.

Conductor • Arweinydd Thomas SøndergårdPiano Igor Levit

6.30PMTalk: In the words of BBC NOW players • Sgwrs: Yng ngeiriau chwaraewyr Cerddorfa’r BBC yng Nghymru

Page 33: BBC NOW 2014-15

Finzi Clarinet Concerto • Concerto ClarinétHolst The Planets

17.04.15 - 7.30pm

Undoubtedly Holst’s most popular work, his evocative and powerful Planets suite depicts the characteristics of Earth’s neighbours in the solar system. It’s paired with Finzi’s Clarinet Concerto, a soulful and virtuosic work performed by the Orchestra’s Principal Clarinet Robert Plane.

Does dim dwywaith nad The Planets ydi gwaith mwyaf poblogaidd Holst, yn gyfres fywiog a grymus sy’n tynnu llun priodoleddau cymdogion y Ddaear yn y gyfundrefn heulog. Mae’n gymar Concerto Clarinét Finzi, gwaith eneidfawr a phencampwriaethol a berfformir gan Brif Ganwr Clarinét y Gerddorfa Robert Plane.

THE PLANETS

Conductor • Arweinydd Martyn BrabbinsClarinet • Clarinét Robert PlaneBBC National Chorus of Wales • Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC

6.30PMAstronomical Extravaganza. Explore the stars with BBC NOW Strafagansa Seryddol. Fforiwch y sêr yng nghwmni Cerddorfa’r BBC yng Nghymru

Page 34: BBC NOW 2014-15

Ravel BoléroLalo Symphonie EspagnoleSaint-Saëns Symphony No 3 • Symffoni Rhif 3, ‘Organ’

15.05.15 - 7.30pm

Exceptional young violinist Chloë Hanslip returns to the Orchestra alongside conductor Xian Zhang, as we take a musical journey through France, with a hint of Spanish influence.

Ravel’s Boléro sets the scene perfectly, with its stirring rhythms and atmospheric melody. Chloë will take to the platform for Edouard Lalo’s Symphonie Espagnole and we finish with Saint-Saëns Symphony No 3. On the composition of his third symphony Saint-Saëns proclaimed “what I have here accomplished, I will never achieve again”, anticipating his final journey into the symphonic form, and one which encapsulated all that he was as a musician, most notably with his addition of the organ to composition.

Daw’r ffidler ifanc eithriadol Chloë Hanslip yn ei hôl at y Gerddorfa ochr yn ochr â’r arweinydd Xian Zhang pan awn ar daith gerddorol drwy Ffrainc ac arni arlliw o ddylanwad Sbaen.

Mae Boléro Ravel a’i rythmau gwefreiddiol a’i alaw llawn awyrgylch yn creu’r olygfa i’r dim. Chloë fydd ar lwyfan yn Symphonie Espagnole Edouard Lalo a down i ben yn Nhrydedd Symffoni Saint-Saëns. Pan gyfansoddodd ei drydedd symffoni meddai Saint-Saëns ar goedd “ni chyflawnaf fyth eto’r hyn a gyflawnais yma”, yn argoeli ei hynt olaf yn y ffurf symffonig, hynt a grynhodd ei holl hanfod fel cerddor, yn anad dim ychwanegu’r organ at y cyfansoddiad.

VIVE LA SWANSEAVIVE L’ABERTAWE

Conductor • Arweinydd Xian Zhang Violin • Ffidil Chloë Hanslip Organ Thomas Trotter

6.30PMTalk: In the words of BBC NOW players • Sgwrs: Yng ngeiriau chwaraewyr Cerddorfa’r BBC yng Nghymru

Page 35: BBC NOW 2014-15

Beethoven Piano Concerto No 3 • Concerto Piano Rhif 3Bruckner Symphony No 8 • Symffoni Rhif 8

Conductor • Arweinydd Thomas SøndergårdPiano Stephen Hough

BEETHOVEN & BRUCKNER

12.06.15 - 7.30pm

The exhilarating Stephen Hough returns to the Brangwyn Hall for our season finale,

alongside Beethoven’s third piano concerto – one of Thomas Søndergård’s favourite works.

Stephen’s performances have gained a glowing reputation for brilliance and elegance, and

we eagerly await his visit. We complete the season with Bruckner’s intense final symphony, his eighth. Bruckner didn’t live

to complete his ninth symphony, but in his intense and tumultuous eighth he wrote some

of his most breathtaking music.

Fel chwa o awyr iach daw Stephen Hough yn ei ôl i Neuadd Brangwyn at ddiweddglo ein tymor, yn Nhrydydd Concerto Piano Beethoven - un o hoff weithiau Thomas Søndergård. Mae canmol mawr ar Stephen am draddodi perfformiadau disglair a chain ac edrychwn ymlaen yn frwd at ei ymweliad. Terfynwn y tymor â Symffoni olaf ddwys Bruckner, ei wythfed. Ni fu fyw Bruckner i

gwblhau ei nawfed symffoni, ond yn ei wythfed ddwys a therfysglyd sgrifennodd beth o’i gerddoriaeth fwyaf syfrdanol.

6.30PMPre-concert talk • Sgwrs cyn y cyngerdd

POST-CONCERT • WEDI’R CYNGERDDLast Night Reception with BBC NOW Director Michael Garvey and Principal Conductor Thomas Søndergård Croeso’r Noson Olaf yng nghwmni Cyfarwyddwr Cerddorfa’r BBC yng Nghymru Michael Garvey a’r Prif Arweinydd Thomas Søndergård

Page 36: BBC NOW 2014-15

“Dependability. Virtuosity. Quality” “Dibynadwyedd. Pencampwriaeth. Graen”

Subscriber • Tanysgrifiwr

0800 052 1812 bbc.co.uk/now

Page 37: BBC NOW 2014-15

35SWANSEA SUBSCRIPTIONS TANYSGRIFIADAU ABERTAWEBecome a Subscriber and experience the BBC National Orchestra of Wales concert season at its very best!

Save money, have your pick of the seats, enjoy extra benefits and put all the dates in your diary now so you can sit back and lose yourself in the music.

Full subscribers enjoy…

Subscribe to all six concerts this season and receive:

• A truly portable subscription, saving 20% off the cost of tickets for any of our concerts*

• Free programmes

• A £12 merchandise voucher

• Tickets for Discover More and Discover More + events

• Free tickets for Contemporary concerts at BBC Hoddinott Hall

• 50% off two BBC Hoddinott Hall concerts of your choice

• 20% off the cost of tickets for concerts at other venues

Piano at the Brangwyn

Book for our three piano concerts and receive:

• 15% off the cost of tickets for piano season concerts

• Free programmes for the piano season concerts

*excludes festivals, BBC Proms and external promotions

Dewch yn Danysgrifiwr a phrofi tymor cyngherddau Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC ar ei orau oll!

Arbedwch arian, cael eich dewis seddi, manteision dros ben a chael rhoi’r dyddiadau i gyd yn eich dyddiadur nawr fel y gallwch eistedd yn ôl ac ymgolli yn y gerddoriaeth.

Mae tanysgrifwyr llawn yn cael…

Tanysgrifiwch i bob un o’r chwe chyngerdd y tymor yma

a chael:

• Tanysgrifiad gwirioneddol symudol, a phris tocynnau 20% yn rhatach i unrhyw un o’n cyngherddau*

• Rhaglenni am ddim

• Tocyn nwyddau £12

• Tocynnau i ddigwyddiadau Darganfod Mwy a Darganfod Mwy +

• Tocynnau am ddim i gyngherddau Cyfoes yn Neuadd Hoddinott y BBC

• Dau gyngerdd arall o’ch dewis yn Neuadd Hoddinott y BBC 50% yn rhatach

• Tocynnau i gyngherddau mewn oedfannau eraill 20% yn rhatach

Piano yn y Brangwyn

Codwch docynnau i’n tri chyngerdd piano a chael:

• Pris tocynnau i gyngherddau tymor y piano 15% yn rhatach

• Rhaglenni am ddim i gyngherddau tymor y piano

*ac eithrio gwyliau, BBC Proms a hyrwyddiadau allanol

Call the BBC National Orchestra of Wales Audience Line FREE on 0800 052 1812

Rhowch ganiad i Linell Cynulleidfaoedd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC AM DDIM ar 0800 052 1812

Page 38: BBC NOW 2014-15

DYLAN THOMAS EVENTS

Saturday 11 OctoberBrangwyn Hall, Swansea

Thursday 30 OctoberPrichard-Jones Hall, Bangor

It is always intriguing

to cross between

art forms, to see

what one can offer the

other and what new

and creative ideas can

flourish. So when it comes

to celebrating the life of

Dylan Thomas, we have

a wonderful opportunity

to explore his influence

on music, both within

his lifetime and through

his inspirational legacy.

In 2014, we will perform

music by two contrasting

figures: one, a friend of the

poet, the other, a composer

hugely influenced by

Dylan’s poetry.

JOHN CORIGLIANO:

A DYLAN THOMAS TRILOGY

Composer John Corigliano first encountered Dylan’s poetry in 1959 while a student. He was ‘irresistibly drawn to translate his music into mine’.

The composition of this oratorio was a long and evolving process, as Corigliano explained: ‘Thomas’ poems have reappeared in my life precisely when they have felt most autobiographical and just when I needed to write exactly the music they have evoked.’ The first version of the piece used three poems: Poem on his Birthday, Fern Hill and Poem in October. The premiere took place in 1976, but after revisiting the work he felt it to be missing a chapter, and so the amended 1999 revision was premiered including music set to Author’s Prologue.

DANIEL JONES SYMPHONY NO 4:

IN MEMORY OF DYLAN THOMAS

Daniel Jenkyn Jones remains one of Wales’ most acclaimed composers. A close friend of Dylan Thomas, they were part of the same group of artists who would meet in the Kardomah café in Swansea. As well as dedicating his fourth symphony to his friend, Jones’ memoir was entitled My Friend Dylan Thomas and he edited a collection of his poetry in 1972.

T H E M U S I C A L D Y L A N

Page 39: BBC NOW 2014-15

DIGWYDDIADAU DYLAN THOMAS

Sadwrn 11 HydrefNeuadd Brangwyn, Abertawe

Iau 30 HydrefNeuadd Prichard-Jones, Bangor

Mae wastad

yn ddiddorol

croesi ffurfiau

ar gelfyddyd, i weld beth

gall y naill ei gynnig i’r

llall a sut gall syniadau

newydd a chreadigol

ffynnu. Felly, a ninnau’n

dathlu bywyd Dylan

Thomas, mae gennym

gyfle ardderchog i

ystyried ei ddylanwad ar

gerddoriaeth, yn ystod ei

oes a thrwy ei etifeddiaeth

ysbrydoledig. Yn 2014,

byddwn yn perfformio

cerddoriaeth gan ddau

ffigwr go wahanol: y naill

yn ffrind i’r bardd, a’r llall

yn gyfansoddwr y cafodd

barddoniaeth Dylan

ddylanwad mawr arno.

JOHN CORIGLIANO:

A DYLAN THOMAS TRILOGY

Daeth y cyfansoddwr John Corigliano ar draws barddoniaeth Dylan gyntaf yn 1959 tra oedd yn fyfyriwr. Cafodd ei ‘hudo i drosi ei gerddoriaeth ef yn rhan o fy ngherddoriaeth innau’.

Roedd y broses o gyfansoddi’r oratorio hon yn un hir ac esblygol, fel yr esboniodd Corigliano: ‘Ailymddangosodd cerddi Dylan yn fy mywyd ar yr union adeg y gallwn uniaethu â nhw fwyaf ac yn union pan oedd angen i fi ysgrifennu’r union gerddoriaeth a ddeilliodd ohonynt’. Defnyddiodd dair cerdd yn y fersiwn gyntaf: Poem on his Birthday, Fern Hill a Poem in October. Perfformiwyd y darn cyntaf yn 1976, ond ar ôl mynd yn ôl at y gwaith, teimlai bod pennod ar goll, ac felly perfformiwyd y darn wedi’i ddiwygio gyntaf yn 1999 ac roedd yn cynnwys cerddoriaeth a oedd yn seiliedig ar Author’s Prologue.

SYMFFONI RHIF 4 DANIEL JONES:

ER COF AM DYLAN THOMAS

Daniel Jenkyn Jones yw un o gyfansoddwyr mwyaf llwyddiannus Cymru hyd heddiw. Roedd yn ffrind i Dylan Thomas, ac arferai’r ddau fod yn rhan o’r un grwp o artistiaid a fyddai’n cwrdd yng nghaffi Kardomah yn Abertawe. Yn ogystal â chyflwyno ei bedwaredd symffoni i’w ffrind, teitl hunangofiant Jones oedd My Friend Dylan Thomas a golygodd gasgliad o’i farddoniaeth yn 1972.

Michael GarveyDirector, BBC National Orchestra & Chorus of Wales

Cyfarwyddwr, Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC

Y D Y L A N C E R D D O R O L

Do not go gentle into that good night,

Old age should burn and rave at close of day;

Rage, rage against the dying of the light.

Page 40: BBC NOW 2014-15

BBC HODDINOTT HALLNEUADD HODDINOTT Y BBC

0800 052 1812 bbc.co.uk/now

Page 41: BBC NOW 2014-15

BBC Hoddinott Hall is our home in Cardiff Bay, where we rehearse, record and perform in front of a live audience. We love welcoming audiences into the studio, to join us to explore music together and to experience such variety and breadth of repertoire.

In this year’s season at BBC Hoddinott Hall, we’re welcoming some new faces to the BBC NOW podium, including Stefan Asbury and Pablo Gonzalez; whilst also welcoming back Anu Tali, Olari Elts and Michael Francis. We’re also showcasing upcoming talent from BBC Radio 3’s New Generation Artists scheme, and look forward to working with pianists Zhang Zuo and Louis Schwizgebel, violinist Elena Urioste, and guitarist Sean Shibe.

With the Orchestra on hand to guide you through unfamiliar works, you can trust us to introduce you to music you may grow to love. You’ll get a chance to hear little-known gems including works by Zemlinsky, De Falla, and Langgaard, and some familiar favourites, including piano concertos by Ravel, and music by Korngold and Walton.

BBC Hoddinott Hall is the perfect space for us to explore contemporary music together – look out for our Composer Portraits of Thierry Escaich and our new Composer-in-Association, B Tommy Andersson; and on 20 January, B Tommy Andersson conducts the Orchestra for the first time, with a programme of music from his native Scandinavia.

Whether you’re looking for the latest new music from around the world, or to be entertained by rarely-performed classics from the archive, BBC Hoddinott Hall is the place to discover something new.

Neuadd Hoddinott y BBC ydi ein cartref ym Mae Caerdydd lle byddwn yn ymarfer, yn recordio ac yn perfformio o flaen cynulleidfa fyw. Rydym wrth ein boddau o groesawu cynulleidfaoedd i’r stiwdio i ddod aton ni i chwilio cerddoriaeth gyda’n gilydd ac i brofi’r fath hyd a lled o repertoire.

Yn y tymor eleni yn Neuadd Hoddinott y BBC, estynnwn groeso i rai wynebau newydd i bodiwm Cerddorfa’r BBC yng Nghymru, gan gynnwys Stefan Asbury a Pablo Gonzalez; ac ar yr un pryd rhown groeso’n ôl i Anu Tali, Olari Elts a Michael Francis. Rydym hefyd yn rhoi stondin i ddawn y to sy’n codi o gynllun Artistiaid y Genhedlaeth Newydd BBC Radio 3 ac edrychwn ymlaen at weithio gyda’r pianyddion Zhang Zuo a Louis Schwizgebel, y ffidler Elena Urioste, a’r gitarydd Sean Shibe.

A’r Gerddorfa wrth law i’ch tywys chi drwy’r gweithiau llai cyfarwydd, gallwch fod yn dawel eich meddwl y cyflwynwn i chi gerddoriaeth a ddaw efallai’n hoff gennych. Gewch chi gyfle i glywed gemau na chlywir ond yn anaml gan gynnwys gweithiau gan Zemlinsky, De Falla a Langgaard a rhai ffefrynnau cyfarwydd, gan gynnwys concerti piano gan Ravel a cherddoriaeth gan Korngold a Walton.

Neuadd Hoddinott y BBC ydi’r union fan i ni chwilio cerddoriaeth gyfoes gyda’n gilydd – cadwch lygad am ein Portreadau Cyfansoddwyr o Thierry Escaich a’n Cyfansoddwr Cysylltiedig newydd B Tommy Andersson; ac ar 20 Ionawr, bydd B Tommy Andersson yn arwain y Gerddorfa am y tro cyntaf, y tro yma mewn rhaglen o gerddoriaeth o Lychlyn ei famwlad.

Pa un a ydych yn chwilio am y gerddoriaeth newydd ddiweddaraf o bedwar ban byd, neu am gael eich diddanu gan glasuron o’r archif a berfformir yn anfynych, Neuadd Hoddinott y BBC ydi’r lle i ddarganfod rhywbeth newydd. H

Page 42: BBC NOW 2014-15

THE SCANDINAVIAN CONNECTIONWith sparse, picturesque landscapes at the edges of Europe, Wales and Scandinavia have always seemed to have a spiritual connection despite the distance between the two.

This season we welcome the Swedish composer B Tommy Andersson to Wales, who becomes our Composer-in-Association who will work with the Orchestra throughout the year.

B Tommy first met Thomas whilst working as a conductor, and while Thomas was timpanist with the Royal Danish Opera. “He’s such a fantastic musician”, B Tommy says of Thomas,

“He is really intensely engaged in the music-making, and he is almost merciless to himself when it comes to learning the score properly, and to try to understand the intentions of the composer.”Amongst B Tommy’s works performed in Cardiff will be The Garden of Delights, opening our St David’s Hall season on Friday 3 October, which takes influence from Bosch’s painting The Garden of Earthly Delights. He describes: “It’s a stunning picture - it’s so huge, so modern in many ways. My piece is not really trying to tell the story of the picture; it’s just inspired by the atmospheres, the turbulence and energy.”

Ar ymylon Ewrop, a’u tirweddau yn llwm ond yn hardd, mae rhyw gysylltiad ysbrydol erioed rhwng Cymru a Llychlyn serch y pellter rhyngddynt.

Y tymor yma rhown groeso i Gymru i’r cyfansoddwr o Sweden B Tommy Andersson, ein darpar Gyfansoddwr Cysylltiedig a fydd y gweithio gyda’r Gerddorfa drwy’r flwyddyn gron.

Pan oedd yn gweithio fel arweinydd a thra oedd Thomas yn dympanydd gydag Opera Brenhinol Denmarc y cyfarfu B Tommy gyntaf â Thomas. “Mae’n gerddor mor wych,” medd B Tommy am Thomas, “Mae’n ymgolli’n llwyr yn y cerddora, ac o ran dysgu’r sgôr yn iawn a cheisio deall bwriadau’r cyfansoddwr mae bron yn ddidostur wrtho’i hun.”

Ymhlith gweithiau B Tommy a berfformir yng Nghaerdydd bydd Gardd y Mwynderau, sy’n cychwyn ein tymor yn Neuadd Dewi Sant nos Wener 3 Hydref, a sbardunwyd gan lun Bosch Gardd y Mwynderau Bydol. Meddai: “Mae’n llun ysgytwol – mae mor enfawr, mor fodern ar lawer gwedd. Nid adrodd stori’r llun ydi bwriad fy narn i yn gymaint â chyfleu’r awyrgylch, y terfysg a’r egni a’i hysbrydolodd.”

LAW YN LLAW Â LLYCHLYN

Page 43: BBC NOW 2014-15
Page 44: BBC NOW 2014-15
Page 45: BBC NOW 2014-15

We’ll explore more of B Tommy’s work with a Composer Portrait in February at BBC Hoddinott Hall – and in an Afternoon Concert, he will conduct the Orchestra, bringing to Cardiff some of his favourite contemporary Scandinavian works. B Tommy firmly believes that the roles of composer and conductor are complementary: “I find that every time I conduct an orchestra, it’s like a lesson in orchestration. I always learn something new about how the instruments interact.”

“I’m one of those old fashioned composers in that I want to communicate with the audience – I want them to be able to take my music to their hearts.”There are plenty of other Scandinavian influences throughout the rest of the year, including music by Sibelius (3 October) and Danish composer Langgaard (18 November). We’ll also be exploring the music of neighbouring countries Estonia and Latvia on 10 February, as we welcome back Estonian conductor Anu Tali for an afternoon of music by Arvo Pärt, Peteris Vasks and Tubin.

Chwiliwn ragor o waith B Tommy mewn Portread Cyfansoddwr ym mis Chwefror yn Neuadd Hoddinott y BBC – ac mewn Cyngerdd Prynhawn bydd yn arwain y Gerddorfa ac yn dod â rhai o’i hoff weithiau o Lychlyn i Gaerdydd. Mae B Tommy yn credu o eigion calon fod rolau’r cyfansoddwr a’r arweinydd yn gymar y naill i’r llall: “Bob tro rwy’n arwain cerddorfa rwy’n cael ei fod fel gwers trefnu i gerddorfa. Bob gafael byddaf yn dysgu rhywbeth newydd am sut mae’r offerynnau’n rhyngweithio.

“Rwy’n un o’r cyfansoddwyr hen ffasiwn hynny o ran awydd cyfathrebu â chynulleidfa - rwyf am iddynt allu teimlo fy ngherddoriaeth yn eigion eu calonnau.”Drwy gydol gweddill y flwyddyn mae yna ddigonedd o ddylanwadau eto o Lychlyn – gan gynnwys cerddoriaeth gan Sibelius (3 Hydref) a’r cyfansoddwr o Ddaniad Langgaard (18 Tachwedd). Byddwn hefyd yn chwilio cerddoriaeth y gwledydd cyfagos Estonia a Latfia ar 10 Chwefror pan roddwn groeso’n ôl i’r arweinydd o Estonia Anu Tali ar gyfer prynhawn o gerddoriaeth gan Arvo Pärt, Peteris Vasks a Tubin.

The Garden of Delights • Gardd y Mwynderau / B Tommy Andersson 03.10.14 St David’s Hall • Neuadd Dewi Sant

Langgaard Symphony No 7 • Seithfed Symffoni 18.11.14 BBC Hoddinott Hall • Neuadd Hoddinott y BBC

Afternoon with • Prynhawn yng nghwmni B Tommy Andersson 20.01.15 BBC Hoddinott Hall • Neuadd Hoddinott y BBC

Afternoon with • Prynhawn yng nghwmni Anu Tali 10.02.15 BBC Hoddinott Hall • Neuadd Hoddinott y BBC

Composer Portrait • Portread Cyfansoddwr: B Tommy Andersson 25.02.15 BBC Hoddinott Hall • Neuadd Hoddinott y BBC

Satyricon / B Tommy Andersson 05.06.15 St David’s Hall • Neuadd Dewi Sant

Page 46: BBC NOW 2014-15

BBC HODDINOTT HALL CONCERTSCYNGHERDDAU NEUADD HODDINOTT Y BBC

AFTERNOON WITH MICHAEL FRANCIS • PRYNHAWN YNG NGHWMNI MICHAEL FRANCIS

TUESDAY • MAWRTH 23.09.14 - 2PM

JANÁCEK Taras Bulba RAVEL Piano Concerto for the Left Hand • Concerto Piano i’r Llaw Chwith ROUSSEL Concerto for Small Orchestra • Concerto i Gerddorfa Fechan MARTINU Symphony No 6 • Symffoni Rhif 6, ‘Fantaisies symphoniques’

Conductor • Arweinydd Michael Francis Piano Louis Schwizgebel NGA

Ravel’s Piano Concerto for the Left Hand is as emotionally powerful and virtuosic as any piano concerto, commissioned by a pianist who had lost his right arm during the First World War. It’s performed by the talented young pianist Louis Schwizgebel, one of BBC Radio 3’s New Generation Artists.

Mae Concerto Piano Ravel i’r Llaw Chwith gyda’r concerto piano mwyaf grymus a phencampwriaethol oll, yn ddarn comisiwn i bianydd a gollasai ei fraich dde yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Fe’i perfformir gan y pianydd ifanc dawnus Louis Schwizgebel, un o Artistiaid y Genhedlaeth Newydd BBC Radio 3.

Page 47: BBC NOW 2014-15

45

COME AND SING… DEWCH I GANU… THE DREAM OF GERONTIUS

SATURDAY • SADWRN 01.11.14 - 10.30AM

Join Artistic Director Adrian Partington and members of BBC National Chorus of Wales to rehearse Elgar’s The Dream of Gerontius. Sing the music in chorus on Saturday 01.11.2014 and then experience the classic in concert at St David’s Hall on Friday 07.11.2014.

This event is particularly suitable for members of choirs and singers who no longer sing on a regular basis.

Dewch at y Cyfarwyddwr Artistig Adrian Partington ac aelodau o Gorws Cenedlaethol Cymreig y BBC i ymarfer The Dream of Gerontius Elgar. Cewch ganu’r gerddoriaeth mewn corws ddydd Sadwrn 01.11.2014 ac wedyn profi’r clasur mewn cyngerdd yn Neuadd Dewi Sant nos Wener 07.11.2014.

Mae’r digwyddiad yma’n arbennig o addas i aelodau o gorau a chanwyr sydd heb fod bellach yn canu’n rheolaidd.

AFTERNOON WITH ANDRÉ DE RIDDER • PRYNHAWN YNG NGHWMNI ANDRÉ DE RIDDER

TUESDAY • MAWRTH 18.11.14 - 2PM

LANGGAARD Symphony No 7 • Symffoni Rhif 7 KORNGOLD Violin Concerto • Concerto Ffidil ZEMLINSKY The Little Mermaid • Y Fôr-forwyn Fach

Conductor • Arweinydd André de Ridder Violin • Ffidil Elena Urioste NGA

Although Korngold left an impressive orchestral repertoire, his main income was from writing some of the first film scores in Hollywood. His dazzling Violin Concerto is performed alongside one of Zemlinsky’s best-loved orchestral fantasies, The Little Mermaid, based on Hans Christian Andersen’s fairy tale.

Er i Korngold adael ar ei ôl repertoire cerddorfaol trawiadol, drwy sgrifennu rhai o’r sgorau ffilm cyntaf yn Hollywood yr enillai ei damaid gan mwyaf. Perfformir ei Concerto Ffidil syfrdanol ochr yn ochr ag un o ffantasïau cerddorfaol mwyaf hoff Zemlinsky, Y Fôr-forwyn Fach, wedi’i seilio ar stori dylwyth teg Hans Christian Andersen.

AFTERNOON WITH PABLO GONZALEZ • PRYNHAWN YNG NGHWMNI PABLO GONZALEZ

TUESDAY • MAWRTH 16.12.14 - 2PM

TURINA Danzas fantásticas ARNOLD Guitar Concerto • Concerto Gitâr DELIUS The Walk to the Paradise Garden FALLA The Three-Cornered Hat • Yr Het Dri Chornel

Conductor • Arweinydd Pablo Gonzalez Guitar • Gitâr Sean Shibe NGA

There’s a distinctly Spanish theme to the second half of this concert, as we play music by some of Spain’s most talented composers. Malcolm Arnold’s Guitar Concerto, however, takes the instrument beyond its Latin roots, and adds a new twist to the usual soundworld of the guitar. It’s performed by young guitarist Sean Shibe, one of BBC Radio 3’s New Generation Artists.

Mae blas digamsyniol Sbaenaidd ar ail hanner y cyngerdd yma, a ninnau’n chwarae cerddoriaeth gan rai o gyfansoddwyr mwyaf dawnus Sbaen. Ond mae Concerto Gitâr Malcolm Arnold yn mynd â’r offeryn y tu hwnt i’w wreiddiau Lladin ac yn rhoi tro yng nghynffon seinfyd arferol y gitâr. Fe’i perfformir gan y gitarydd ifanc Sean Shibe, un o Artistiaid y Genhedlaeth Newydd BBC Radio 3.

Page 48: BBC NOW 2014-15

AFTERNOON WITH B TOMMY ANDERSSON • PRYNHAWN YNG NGHWMNI B TOMMY ANDERSSON TUESDAY • MAWRTH 20.01.15 - 2PM

ROSENBERG Dance Suite from • Cyfres Ddawns o ‘Orpheus in town’ NORMAN Concert Overture in E flat major • Agorawd Cyngerdd ym meddalnod E lon LIDHOLM Kontakion ALFVÉN Symphony No 4 • Symffoni Rhif 4

Conductor • Arweinydd B Tommy Andersson Soprano Elizabeth Atherton Tenor Robin Tritchler

Composer-in-Association B Tommy Andersson believes there is a substantial crossover between composing and conducting – “every time I conduct, it’s like a lesson in orchestration”. In his first conducting appearance with the Orchestra, he introduces an afternoon of Romantic music from his native Sweden.

Mae’r Cyfansoddwr Cysylltiedig B Tommy Andersson yn credu bod yna drawsgroesi sylweddol rhwng cyfansoddi ac arwain – “bob tro y byddaf yn arwain, mae fel gwers trefnu i gerddorfa”. Y tro cyntaf iddo ymddangos fel arweinydd gyda’r Gerddorfa mae’n cyflwyno prynhawn o gerddoriaeth o’i famwlad Sweden.

COMPOSER PORTRAIT: THIERRY ESCAICH • PORTREAD CYFANSODDWR: THIERRY ESCAICH

WEDNESDAY • MERCHER 28.01.15 - 7.30PM

Conductor • Arweinydd Olari Elts

Join us as we delve into the music of composer Thierry Escaich, the award-winning French composer and organist.

Dewch aton ni i gloddio i gerddoriaeth y cyfansoddwr a’r organydd arobryn o Ffrancwr Thierry Escaich.

AFTERNOON WITH ANU TALI • PRYNHAWN YNG NGHWMNI ANU TALI TUESDAY • MAWRTH 10.02.15 - 2PM

ARVO PÄRT Fratres PETERIS VASKS Distant Light • Golau Pell TUBIN Symphony No 4, ‘Lyrical’ • Symffoni Rhif 4, ‘Telynegol’

Conductor • Arweinydd Anu Tali Violin • Ffidil Baiba Skride

An afternoon of music from the Baltic nations, as Estonian conductor Anu Tali returns to conduct the Orchestra. She’s joined on stage by Latvian violinist Baiba Skride, to perform Distant Light by Peteris Vasks; plus there’s music by Estonian Arvo Pärt, well-loved for his peaceful, minimalist music.

Prynhawn o gerddoriaeth o lannau Môr Llychlyn, a’r arweinydd o Estonia Anu Tali yn dod yn ei hôl i arwain y Gerddorfa. Yn gwmni iddi ar lwyfan bydd y ffidler o Latfia Baiba Skride, i berfformio Golau Pell gan Peteris Vasks ac at hynny mae cerddoriaeth gan yr Estoniad Arvo Pärt sy’n swyno â’i gerddoriaeth leiafsymiol, heddychlon.

BBC HODDINOTT HALL CONCERTSCYNGHERDDAU NEUADD HODDINOTT Y BBC

Page 49: BBC NOW 2014-15

COMPOSER PORTRAIT: B TOMMY ANDERSSON • PORTREAD CYFANSODDWR: B TOMMY ANDERSSONWEDNESDAY • MERCHER 25.02.15 - 7.30PM

B TOMMY ANDERSSON Death in Venice Passacaglia Apollo (percussion concerto • concerto taro) Warriors

Conductor • Arweinydd Thomas Søndergård Percussion • Offerynnau Taro Markus Leosen

The Orchestra explore a selection of B Tommy Andersson’s works, as part of his role as Composer-in-Association. The works are conducted by Principal Conductor Thomas Søndergård, long-time friend and colleague of B Tommy.

Y Gerddorfa’n chwilio pigion o waith B Tommy Andersson, yn rhan o’i rôl yn Gyfansoddwr Cysylltiedig. Arweinir y gweithiau gan y Prif Arweinydd Thomas Søndergård, ffrind a chydweithiwr B Tommy ers tro.

AFTERNOON WITH STEFAN ASBURY • PRYNHAWN YNG NGHWMNI STEFAN ASBURY

TUESDAY • MAWRTH 21.04.15 - 2PM

REBEL Chaos from ‘Les élémens’ RAVEL Piano Concerto in G • Concerto Piano yn G MILHAUD La Création du monde GINASTERA Popol Vuh

Conductor • Arweinydd Stefan Asbury Piano Zhang Zuo NGA

An afternoon of music exploring three different view points on the creation of the earth: Ginastera’s ballet based on Mayan beliefs; Milhaud’s music exploring African folk mythology; and Rebel’s depiction of the four elements of earth, wind, fire and water.

Prynhawn o gerddoriaeth yn chwilio tair gwahanol olygwedd ar greu’r ddaear: ballet Ginastera wedi’i seilio ar gredoau’r Maiaid; cerddoriaeth Milhaud sy’n chwilio mytholeg werin Affrica; a darlun Rebel o’r pedair elfen glasurol sef y ddaear, gwynt, tân a dwr.

COMPOSITION: WALES - CULMINATION CONCERT CYFANSODDI: CYMRU - CYNGERDD TERFYNOL

WEDNESDAY • MERCHER 01.04.15 - 7PM

Conductor • Arweinydd Jac van Steen

Come and hear the latest in composition in Wales, as composers worthy of wider exposure have the opportunity to hear their works performed by the Orchestra.

Dewch i glywed y diweddaraf ym myd cerdd Cymru, a chyfansoddwyr sy’n haeddu cael eu clywed yn ehangach yn cael cyfle i glywed perfformio eu gweithiau gan y Gerddorfa.

0800 052 1812 bbc.co.uk/now

Page 50: BBC NOW 2014-15

BROADCASTS &SOUNDTRACKS DARLLEDIADAU A THRACIAU SAINThe BBC National Orchestra of Wales is perhaps more commonly known to some audiences as the Doctor Who Orchestra. Our role, adding the magic of sound to a cornucopia of BBC programmes, means you may be listening to our musicians, and not even realise it.

Recently we recorded for BBC One’s Hidden Kingdoms, providing musical mite to nature’s minute, a new work composed by soundtrack aficionado, Ben Foster. Jake Jackson, recording and mix engineer for Hidden Kingdoms, briefly explains the process of syncing the music with what’s seen on screen.

“An important part of any documentary is the soundtrack – the music in the background that matches the excitement and emotions of the action on screen. The process for getting Ben Foster’s work from initial ideas to a fully recorded soundtrack takes around 4-6 weeks.

Once Ben sees a rough copy of the programme, he meets with the production team to decide which parts of the episode need music – these are broken down into around 20-30 sections, or ‘cues’. These will be the moments where the soundtrack can help to heighten the emotion, to add excitement, or provide a sense of mystery.

When recording day itself comes round my job is to capture the Orchestra’s performance as close to how they would sound in the concert hall, but with some additional emphasis on instruments to feature them, if they’re playing the tune or melody.

The great thing about the BBC National Orchestra of Wales is that they are very used to the process of a recording session. It can be a very intense day, and everyone makes sure they are on top form when the red recording light is on, so that no time is wasted.”

This year listen out for the Orchestra on the following shows:

• Atlantis• The Crimson Field • Doctor Who• Hidden Kingdoms• Wizards Vs Aliens

Efallai mai fel Cerddorfa Doctor Who y mae Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn fwy cyfarwydd i rai cynulleidfaoedd. Yn sgil ein rôl yn ychwanegu hud sain i fflyd o raglenni’r BBC, fe ddichon yn wir eich bod yn gwrando ar ein cerddorion yn hollol ddiarwybod.

Yn ddiweddar buom yn recordio i Hidden Kingdoms BBC One, yn cynnig grym cerddorol i bethau bychain bach byd natur, gwaith newydd a gyfansoddwyd gan y giamstar traciau sain, Ben Foster. Mewn byr o eiriau eglura Jake Jackson, peiriannydd recordio a chymysgu Hidden Kingdoms, y gwaith o gysoni’r gerddoriaeth â’r hyn sydd ar y sgrîn.

“Rhan bwysig o unrhyw raglen ddogfen ydi’r trac sain – y gerddoriaeth yn y cefndir sy’n cyd-fynd â chyffro a theimladau’r digwyddiadau ar y sgrîn. Mae’r broses o fynd â gwaith Ben Foster o’r syniadau cyntaf i drac sain wedi’i recordio’n llawn yn cymryd tua mis i chwe wythnos fel arfer.

Unwaith y gwêl Ben gopi bras o’r rhaglen, mae’n cyfarfod y tîm cynhyrchu i benderfynu pa rannau o’r bennod sy’n galw am gerddoriaeth – rhannir y rhain yn ugain neu ddeg ar hugain o adrannau, neu ‘giwiau’. Y rhain fydd y munudau lle gall y trac sain fod yn gaffaeliad i ddwysáu’r teimlad, i ychwanegu cyffro, neu i roi ymdeimlad o ddirgelwch.

Pan ddaw’r diwrnod recordio ei hun fy ngwaith i ydi dal perfformiad y Gerddorfa cyn nesed ag y bo modd at sut y byddai i’w chlywed mewn neuadd gyngerdd, ond â pheth pwyslais dros ben ar offerynnau i’w rhoi yn yr amlwg, os ydyn nhw’n chwarae’r alaw neu’r felodi.

Rhagoriaeth Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC ydi ei bod wedi hen arfer â phroses sesiwn recordio. Gall fod yn ddiwrnod pur lethol ac mae pawb yn ymorol eu bod ar eu gorau pan fydd y golau recordio coch ymlaen er mwyn peidio â gwastraffu dim amser.”

Eleni clustfeiniwch am y Gerddorfa ar y sioeau sy’n dilyn:

• Atlantis• The Crimson Field • Doctor Who• Hidden Kingdoms• Wizards Vs Aliens

Page 51: BBC NOW 2014-15
Page 52: BBC NOW 2014-15

Our performances at the BBC Proms 2014 at the Royal Albert Hall, London:

Ein perfformiadau yn BBC Proms 2014 yn y Royal Albert Hall, Llundain:

FRIDAY • GWENER 18.07.14 - 7.30PM

ELGAR The Kingdom

Conductor • Arweinydd Sir Andrew Davis Soprano Erin Wall Mezzo Catherine Wyn-Rogers Tenor Andrew Staples Baritone • Bariton Christopher Purves BBC National Chorus of Wales • Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC BBC Symphony Chorus BBC Symphony Orchestra

SUNDAY • SUL 27.07.14 - 7.30PM

RAVEL Valses nobles et sentimentales SIMON HOLT Morpheus Wakes: Flute Concerto • Concerto Ffliwt BBC Radio 3 commission, World Premiere • Darn comisiwn i BBC Radio 3, Première Byd RAVEL La Valse DURUFLÉ Requiem

Conductor • Arweinydd Thierry Fischer Flute • Ffliwt Emmanuel Pahud Soprano Ruby Hughes Baritone • Bariton Gerald Finley BBC National Chorus of Wales • Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC National Youth Choir of Wales• Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru

WEDNESDAY • MERCHER 06.08.14 - 7PM

WAGNER Das Liebesverbot: Overture • Agorawd MATHIAS Violin Concerto • Concerto Ffidil ELGAR Symphony No 1 in A flat major • Symffoni Rhif 1 ym meddalnod A lon

Conductor • Arweinydd Mark Wigglesworth Violin • Ffidil Matthew Trusler

MONDAY • LLUN 11.08.14 - 7.30PM

R. STRAUSS Tod und Verklärung R. STRAUSS Burleske MOZART Rondo in A major for piano and orchestra • Rondo yn A lon i’r piano a’r gerddorfa NIELSEN Symphony No 5 • Symffoni Rhif 5

Conductor • Arweinydd Thomas Søndergård Piano Francesco Piemontesi

Page 53: BBC NOW 2014-15

TUESDAY • MAWRTH 12.08.14 - 7PM

DAVIES, PETER MAXWELL Caroline Mathilde - Suite from • Cyfres o Act II

WALTON Violin Concerto • Concerto Ffidil SIBELIUS Swan of Tuonela • Alarch Tuonela

SIBELIUS Symphony No 5 in E flat major • Symffoni Rhif 5 ym meddalnod E lon

Conductor • Arweinydd Thomas Søndergård Violin • Ffidil James Ehnes

Soprano Mary Bevan Mezzo-soprano Kitty Whately

PROMS IN THE PARK • PROMS YN Y PARC

SATURDAY • SADWRN 13.09.14 Singleton Park, Swansea • Parc Singleton, Abertawe

Join the BBC National Orchestra and Chorus of Wales to celebrate the Last Night of the Proms at

Singleton Park in Swansea.

For more details visit bbc.co.uk/proms or follow @bbcproms

Dewch at Gerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC i ddathlu Noson Ola’r Proms ym

Mharc Singleton yn Abertawe.

Am ragor o fanylion ewch i bbc.co.uk/proms neu ddilyn @bbcproms

Page 54: BBC NOW 2014-15

FAMILY CONCERTSCYNGHERDDAU I’R TEULUOur family concerts offer the perfect way to introduce young audiences to classical music and the energy of our Orchestra.

We welcome families to all of our concerts, but we’ve also earmarked a selection that we think are particularly suitable for a great family experience. Plus, with our family tickets, a trip to the symphony is cheaper than the cinema, with the opportunity to enjoy live music for just £18.

Mae ein cyngherddau i’r teulu yn cynnig y ffordd berffaith i gyflwyno cynulleidfaoedd ifainc i gerddoriaeth glasurol ac egni’r Gerddorfa.

Mae croeso i deuluoedd i’n cyngherddau i gyd ond rydym hefyd wedi clustnodi detholiad sydd yn ein tyb ni yn arbennig o addas at brofiad tan gamp i’r teulu. At hynny, diolch i’n tocynnau teulu, fe gyst symffoni lai i chi na mynd i’r pictiwrs, yn gyfle i gael blas ar gerddoriaeth fyw am ddim ond £18.

Page 55: BBC NOW 2014-15

0800 052 1812 bbc.co.uk/now

53

FAMILY NIGHT AT SWANSEA FESTIVAL OF MUSIC & THE ARTS NOSON I’R TEULU YNG NGWYL CERDDORIAETH A’R CELFYDDYDAU ABERTAWE

FRIDAY • GWENER 17.10.14 - 7PM Brangwyn Hall, Swansea • Neuadd Brangwyn, Abertawe

HALLOWEEN SPOOKTACULAR • NOS GLANGAEA BWGANDIBETHMA

SUNDAY • SUL 26.10.14 - 3PM St David’s Hall, Cardiff • Neuadd Dewi Sant, Caerdydd

CHRISTMAS CELEBRATIONS • DATHLU’R NADOLIG

THURSDAY • IAU 18.12.14 - 7.30PM St David’s Hall, Cardiff • Neuadd Dewi Sant, Caerdydd

FRIDAY • GWENER 19.12.14 - 7.30PM Brangwyn Hall, Swansea • Neuadd Brangwyn, Abertawe

SATURDAY • SADWRN 20.12.14 - 3PM & 7PM Sir Thomas Picton School, Haverfordwest • Ysgol Syr Thomas Picton, Hwlffordd

ST DAVID’S DAY GALA ◆ GALA DYDD GWYL DEWI

SUNDAY • SUL 01.03.15 - 3PM St David’s Hall, Cardiff • Neuadd Dewi Sant, Caerdydd

THE PLANETSTHURSDAY • IAU 17.04.15 - 7.30PM Brangwyn Hall, Swansea • Neuadd Brangwyn, Abertawe

FRIDAY • GWENER 18.04.15 - 7.30PM St David’s Hall, Cardiff • Neuadd Dewi Sant, Caerdydd

FAMILY TICKETS • TOCYNNAU TEULU

£12.50 for 1 adult and up to 2 children • am 1 oedolyn a hyd at 2 o blant £18 for 2 adults and up to 4 children • am 2 oedolyn a hyd at 4 o blant

Page 56: BBC NOW 2014-15

ON THE ROADAR DAITH

Page 57: BBC NOW 2014-15

We simply wouldn’t be your national orchestra if we didn’t take to the road, showcasing classical music across Wales. We pack our symphony orchestra into halls and theatres across the country, from Venue Cymru in Llandudno to Aberystwyth Arts Centre, Prichard-Jones Hall in Bangor to Sir Thomas Picton School in Pembrokeshire. That’s not to mention how excited we are to add Theatr Brycheiniog in Brecon back into our list of homes from home. And this year, we simply won’t disappoint, with a season of real delights on your doorstep.

We make a commitment to bring exceptional talent to the reaches of Wales for your ears only, so hope you’ll join us in welcoming a selection of conductors including Italian maestro Francesco Angelico and rising star of tomorrow Ben Gernon, and don’t miss the opportunity to bear witness to the bountiful energy of Alexandre Bloch. Our brass inspired spring season, featuring exceptional Norwegian trumpeter, Tine Thing Helseth, calls on recognisable fanfares by Arutiunian, Copland and Haydn, topped off with the power and might of Dvorák.

If you can’t wait till spring, you can stave off the winter cold with the choral joys of Ruby Hughes’s soprano vocals in November, with two jam-packed programmes. Bringing a somewhat nationalistic theme, we’re exploring Italian charm with a selection of Mozart’s arias, witnessing Mendelssohn as a tourist through his ‘Italian’ and ‘Scottish’ symphonies, and celebrating the Welsh land of song with Mathias’ Dance Overture, written for the 1962 National Eisteddfod.

And in true BBC NOW fashion, our own Principal Flute, Matthew Featherstone, takes the spotlight performing Mathias’ Flute Concerto in Newtown.

Christmas simply wouldn’t be Christmas without our matinee and evening performances at Sir Thomas Picton School in Haverfordwest. This year, led by Edwin Outwater, we will be joining the west in song with festive favourites, including Leroy Anderson’s Sleigh Ride and the icy tale of Rimsky-Korsakov’s The Snow Maiden.

So wherever you are and whatever the season, BBC NOW is never too far from being a dose of home comfort.

Nid eich cerddorfa genedlaethol fyddem ni damaid heb fynd ar daith, i roi stondin i gerddoriaeth glasurol ledled Cymru. Gwasgwn ein cerddorfa symffoni i neuaddau a chanolfannau celfyddydau drwy hyd a lled y wlad, o Venue Cymru yn Llandudno i Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth, Neuadd Prichard-Jones ym Mangor i Ysgol Syr Thomas Picton yn Sir Benfro. Heb sôn am y wefr o allu ychwanegu Theatr Brycheiniog yn Aberhonddu drachefn at ein rhestr gartrefi oddi cartref. Ac eleni chewch chi mo’ch siomi – bydd tymor o fwynderau ar eich rhiniog.

Rydym yn ymroddedig i ddod â dawn eithriadol i bob rhan o Gymru yn arbennig i chi, felly gobeithio y dewch aton ni i groesawu amrywiaeth o arweinwyr gan gynnwys y maestro o’r Eidal Francesco Angelico ac un o sêr dydd a ddaw Ben Gernon, a pheidiwch â cholli’r cyfle i brofi egni di-ben-draw Alexandre Bloch. Offerynnau pres sydd wrth graidd tymor y gwanwyn, yn rhoi llwyfan i’r utganwr eithriadol o Norwy, Tine Thing Helseth, galwadau ffanfferau tra chyfarwydd gan Arutiunian, Copland a Haydn, ac ar ben y rheini grym a chadernid Dvorák.

Os na allwch aros hyd y gwanwyn gallwch ochel oerfel y gaeaf â mwynderau corawl llais soprano Ruby Hughes ym mis Tachwedd mewn dwy raglen lawn dop. Ar thema genedlaetholgar, chwiliwn swyn yr Eidal mewn detholiad o ariâu Mozart, dilyn hynt Mendelssohn fel twrist drwy ei symffonïau ‘Eidalaidd’ ac ‘Albanaidd’, a dathlu Cymru gwlad y gân yn Dance Overture Mathias, a sgrifennwyd i Eisteddfod Genedlaethol 1962.

Ac ym mhriod ddull Cerddorfa’r BBC yng Nghymru, yn Y Drenewydd ein Prif Ganwr Ffliwt ein hunain, Matthew Featherstone, fydd yn y sbotolau solo yn perfformio Concerto Ffliwt Mathias.

Nid y Nadolig fyddai’r Nadolig damaid heb ein perfformiadau prynhawn a hwyrol yn Ysgol Syr Thomas Picton yn Hwlffordd. Eleni, dan arweiniad Edwin Outwater, awn tua’r gorllewin dan ganu ffefrynnau’r wyl, gan gynnwys Sleigh Ride Leroy Anderson a hanes oerias Y Forwyn Eira Rimsky-Korsakov.

Felly lle bynnag yr ydych a beth bynnag y bo’r tymor, mae Cerddorfa’r BBC yng Nghymru bob amser yn ddigon agos i fod yn eli i’r galon.

T

Page 58: BBC NOW 2014-15

A MIDSUMMER NIGHT’S DREAM

SUNDAY • SUL 28.09.14 - 3PM Hafren, Newtown • Y Drenewydd

MENDELSSOHN Overture • Agorawd ‘The Hebrides’ MATHIAS Flute Concerto • Concerto Ffliwt GARETH GLYN New Commission • Darn Comisiwn Newydd MENDELSSOHN Suite from • Cyfres o ‘Midsummer Night’s Dream’

Conductor • Arweinydd Alexandre Bloch Flute • Ffliwt Matthew Featherstone

BBC National Orchestra of Wales’ Principal Flute Matthew Featherstone steps out from the Orchestra to perform William Mathias’ graceful Flute Concerto, under the baton of energetic young conductor Alexandre Bloch. The Orchestra will also perform a new commission by Welsh composer Gareth Glyn, alongside two works by Mendelssohn – the perfect weekend afternoon treat!

Cama Prif Ganwr Ffliwt Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, Matthew Featherstone, allan o’r gerddorfa i berfformio Concerto Ffliwt gosgeiddig William Mathias o dan faton yr arweinydd ifanc egnïol Alexandre Bloch. Bydd y Gerddorfa hefyd yn perfformio darn comisiwn newydd gan y cyfansoddwr o Gymro Gareth Glyn, ochr yn ochr â dau waith gan Mendelssohn – eli i’r galon ar brynhawn Sul!

ON THE ROAD AR DAITH

Page 59: BBC NOW 2014-15

57

Dynamic Italian conductor Francesco Angelico, at home in the opera pit and on the orchestral podium, is joined on tour by two fabulous British singers - soprano Ruby Hughes and mezzo Jennifer Johnston.

Yr arweinydd egnïol o’r Eidal Francesco Angelico, sy’n gartrefol ym mhwll yr opera ac ar y podiwm cerddorfaol, ac yn ymuno ag ef ar daith dau ganwr gwych o Brydain - y soprano Ruby Hughes a’r mezzo Jennifer Johnston.

PICTURES OF ITALY • LLUNIAU O’R EIDAL

THURSDAY • IAU 27.11.14 - 7.30PM Theatr Brycheiniog, Brecon • Aberhonddu SUNDAY • SUL 30.11.14 - 3PM Venue Cymru, Llandudno

ROSSINI Overture ‘The Barber of Seville’ • Agorawd, ‘Il barbiere di Siviglia’ Arias by Mozart and Rossini • Ariâu gan Mozart a Rossini VERDI Overture • Agorawd ‘La forza del destino’ MENDELSSOHN Symphony No 4 ‘Italian’ • Symffoni Rhif 4, ‘Eidalaidd’

Conductor • Arweinydd Francesco Angelico Soprano Ruby Hughes

An Italian firecracker of a programme, set to send heartbeats racing! With two fiery overtures from the stalwarts of Italian opera – Rossini’s comedy The Barber of Seville and Verdi’s intensely dramatic La Forza del Destino.

We also explore Italy as a tourist – through the music of German composer Mendelssohn who was inspired to write his fourth symphony whilst on holiday. It’s an uplifting piece full of joyous melodies - as Mendelssohn himself described in a letter to his sister, it’s “the jolliest piece I have ever done”.

Clecar Eidalaidd o raglen a wna i’r galon guro’n gyflymach does dim dau! Dwy agorawd danllyd gan hoelion wyth opera’r Eidal – comedi Rossini Il barbiere di Siviglia a drama ddwys La Forza del Destino Verdi.

Rhown dro am yr Eidal hefyd fel twristiaid – drwy gerddoriaeth y cyfansoddwr o’r Almaen Mendelssohn a ysbrydolwyd i sgrifennu ei bedwaredd symffoni pan oedd ar ei wyliau. Mae’n ddarn calonogol yn llawn alawon llawen - chwedl Mendelssohn ei hun mewn llythyr at ei chwaer, “dyma’r darn mwyaf hwyliog a wneuthum erioed”.

CELTIC IMPRESSIONS • ARGRAFFION CELTAIDD

FRIDAY • GWENER 28.11.14 - 7.30PM Aberystwyth Arts Centre • Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth SATURDAY • SADWRN 29.11.14 - 7.30PM Prichard-Jones Hall • Neuadd Prichard-Jones, Bangor

MATHIAS Dance Overture ELGAR Sea Pictures STANFORD Irish Rhapsody No 1 • Rhapsodi Wyddelig Rhif 1 MENDELSSOHN Symphony No 3 ‘Scottish’ • Symffoni Rhif 3 ‘Albanaidd’

Conductor • Arweinydd Francesco Angelico Soprano Jennifer Johnston

An evening of music from different parts of the UK and Ireland. Welsh composer Mathias wrote his Dance Overture for the 1962 National Eisteddfod in Llanelli – with plenty of Latin-American rhythms thrown in amongst the lively melodies.

Irish composer Stanford wrote his beautiful Irish Rhapsodies as a love-letter to his homeland; whereas Mendelssohn wrote his Scottish Symphony whilst travelling through Scotland, inspired by the picturesque landscapes.

Noson o gerddoriaeth o Gymru, yr Alban, Lloegr ac Iwerddon. I Eisteddfod Genedlaethol 1962 yn Llanelli y sgrifennodd Mathias ei Dance Overture – a digonedd o rythmau Lladin-Americanaidd ymhlith yr alawon bywiog.

Fel llythyr caru at ei famwlad y sgrifennodd y cyfansoddwr o Wyddel Stanford ei Rapsodïau Gwyddelig; tra sgrifennodd Mendelssohn ei Symffoni Albanaidd tra oedd yn teithio’r Alban, wedi’i ysbrydoli gan y tirweddau hardd.

THEATR BRYCHEINIOG - 6.30PM, VENUE CYMRU - 2PMPre-concert talk • Sgwrs cyn y cyngerdd

ABERYSTWYTH ARTS CENTRE • CANOLFAN Y CELFYDDYDAU ABERYSTWYTH - 6.30PMTalk: In the words of BBC NOW players • Sgwrs: Yng ngeiriau chwaraewyr Cerddorfa’r BBC yng Nghymru

Page 60: BBC NOW 2014-15

CHRISTMAS CELEBRATIONS • DATHLU’R NADOLIG

SATURDAY • SADWRN 20.12.14 - 3PM & 7PM Sir Thomas Picton School, Haverfordwest • Ysgol Syr Thomas Picton, Hwlffordd

Conductor • Arweinydd Edwin Outwater

A gift-wrapped concert packed full of festive highlights, including Leroy Anderson’s Sleigh Ride and a chance to sing-along.

Cyngerdd crand o’i go’ yn heigio gan bigion yr wyl, gan gynnwys Sleigh Ride Leroy Anderson a chyfle i forio canu.

After making his BBC Proms debut in 2010, rising star Ben Gernon is joined by the Norwegian trumpeter Tine Thing Helseth. Still in her twenties, Tine Thing has a mature and powerful sound, and brings a musicality to the trumpet repertoire, classical and modern.

Ar ôl gwneud ei début yn y BBC Proms yn 2010, dyma Ben Gernon, un o sêr dydd a ddaw, ac yn gwmni iddo’r utganwr o Norwy Tine Thing Helseth. Heb eto gyrraedd ei thrigain, mae gan Tine Thing naws aeddfed a grymus a daw â gwir ddawn gerddorol at repertoire yr utgorn, yn glasurol ac yn fodern.

FATE AND CELEBRATION • TYNGED A DATHLU

THURSDAY • IAU 26.03.15 - 7.30PM Aberystwyth Arts Centre • Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth FRIDAY • GWENER 27.03.15 - 7.30PM Prichard-Jones Hall • Neuadd Prichard-Jones, Bangor

SHOSTAKOVICH Festive Overture • Agorawd Gwyl ARUTIUNIAN Trumpet Concerto • Concerto Utgorn HAYDN Trumpet Concerto • Concerto Utgorn TCHAIKOVSKY Symphony No 4 • Symffoni Rhif 4

Conductor • Arweinydd Ben Gernon Trumpet • Utgorn Tine Thing Helseth

By the time he wrote his Fourth Symphony, Tchaikovsky was obsessed by the idea of fate. From the powerful opening fanfare, right through to the majestic ending, it’s as dramatic as you’d expect from the master of Russian symphonies.

By contrast, Shostakovich’s Festive Overture is almost carefree, brimming with unbridled joy. Also featured are two of the most popular of trumpet concertos, by Haydn and Arutiunian.

Erbyn iddo sgrifennu ei Bedwaredd Symffoni aethai’r syniad o dynged yn chwilen ym mhen Tchaikovsky. O’r ffanffer agoriadol rymus hyd at y diwedd mawreddog, mae’r un mor ddramatig ag y disgwyliech gan feistr symffonïau Rwsia.

Yn hollol groes, mae Agorawd Gwyl Shostakovich bron yn ysgafala, yn berwi gan lawenydd di-ffrwyn. Mae yma hefyd ddwy o’r agorawdau utgorn mwyaf poblogaidd, gan Haydn ac Arutiunian.

ON THE ROAD AR DAITH

ABERYSTWYTH ARTS CENTRE • CANOLFAN Y CELFYDDYDAU ABERYSTWYTH - 6.30PMTalk: In the words of BBC NOW players • Sgwrs: Yng ngeiriau chwaraewyr Cerddorfa’r BBC yng Nghymru

PRICHARD-JONES HALL • NEUADD PRICHARD-JONES - POST-CONCERT • WEDI’R CYNGERDDJam in the Bar • Jam yn y Bar BBCNOW & Pontio collaboration • Cywaith Cerddorfa’r BBC yng Nghymru a Pontio

Page 61: BBC NOW 2014-15

THE AMERICAN DREAM • BREUDDWYD AMERICA

SATURDAY • SADWRN 28.03.15 - 7.30PM William Aston Hall, Wrexham • Neuadd William Aston, Wrecsam SUNDAY • SUL 29.03.15 - 3PM Venue Cymru, Llandudno

COPLAND Fanfare for the Common Man HUMMEL Trumpet Concerto • Concerto Utgorn COPLAND Quiet City DVORÁK Symphony No 9 • Symffoni Rhif 9, ‘From the New World’

Conductor • Arweinydd Ben Gernon Trumpet • Utgorn Tine Thing Helseth

Dvorák wrote his last symphony soon after he had moved to New York, and filled the work with references to both Native American songs, and his native Czech folk dances. It’s since gone on to be one of the most popular of all symphonies.

American composer Copland was inspired to compose his powerful Fanfare for the Common Man, full of hope and aspiration, after hearing a speech by Henry A Wallace, then Vice-President of the United States. We’ll also be playing Quiet City, which started life as incidental music for a play of the same name, and features a haunting trumpet part.

Sgrifennodd Dvorák ei symffoni olaf toc wedi iddo fudo i Efrog Newydd a llenwi’r gwaith â chyfeiriadau at ganeuon Brodorion America ac at ddawnsiau ei famwlad Tsiecoslofacia. Mae bellach yn un o’r symffonïau mwyaf poblogaidd oll.

Ysbrydolwyd y cyfansoddwr o Americaniad Copland i gyfansoddi ei waith grymus Fanfare for the Common Man, sy’n llawn gobaith a dyhead, ar ôl clywed araith gan Henry A Wallace oedd ar y pryd yn Is-arlywydd yr Unol Daleithiau. Byddwn hefyd yn chwarae Quiet City, a gychwynnodd ei oes yn gerddoriaeth achlysurol i ddrama o’r un enw ac sy’n cynnwys rhan atgofus i’r utgorn.

WILLIAM ASTON HALL • NEUADD WILLIAM ASTON - 6.30PMTalk: In the words of BBC NOW players • Sgwrs: Yng ngeiriau chwaraewyr Cerddorfa’r BBC yng Nghymru

VENUE CYMRU - 2PMPre-concert talk • Sgwrs cyn y cyngerdd

Page 62: BBC NOW 2014-15

Gregynog Festival • Gwyl Gregynog

FRIDAY • GWENER 27.06.14

Cheltenham Festival • Gwyl Cheltenham

SATURDAY • SADWRN 12.07.14

Fishguard International Music Festival Gwyl Cerdd Ryngwladol Abergwaun

SATURDAY • SADWRN 19.07.14

Welsh Proms • Proms Cymru

WEDNESDAY • MERCHER 23.07.14

University of Worcester Arena

WEDNESDAY • MERCHER 10.09.14

North Wales International Music Festival Gwyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru

SATURDAY • SADWRN 27.09.14

Swansea Festival of Music & the Arts Gwyl Abertawe i Gerdd a’r Celfyddydau

SATURDAY • SADWRN 11.10.14

Family Concert • Cyngerdd Teulu

FRIDAY • GWENER 17.10.14

Pontio, Bangor

THURSDAY • IAU 30.10.14

Bangor New Music Festival Gwyl Gerdd Newydd Bangor

FRIDAY • GWENER 06.03.15

Vale of Glamorgan Festival • Gwyl Bro Morgannwg

WEDNESDAY • MERCHER 20.05.15 SATURDAY • SADRWN 23.05.15

St Davids Cathedral Festival Gwyl Eglwys Gadeiriol Tyddewi

FRIDAY • GWENER 29.05.15

FESTIVAL APPEARANCESYMDDANGOSIADAU MEWN GWYLIAUAs well as concerts in the Orchestra’s regular venues, working with festivals and venues far and wide is an important element of our work. 2014-15 sees concerts at the following places, so please come and join us at an event near you!

Yn ogystal â chyngherddau yn oedfannau rheolaidd y Gerddorfa, mae gweithio gyda gwyliau ac oedfannau ar hyd ac ar led yn elfen bwysig o’n gwaith. Gwêl 2014-15 gyngherddau yn y mannau sy’n dilyn felly cofiwch ddod aton ni i ddigwyddiad yn eich cyffiniau chi!

Brahms Experience, Colston Hall

WEDNESDAY • MERCHER 08.10.14

Conductor Laureate, Tadaaki Otaka, leads the Orchestra in an all Brahms programme – part of BBC Radio 3’s Brahms Experience in association with Colston Hall and St George’s.

Yr Arweinydd Llawryfog, Tadaaki Otaka, yn arwain y Gerddorfa mewn rhaglen Brahms i gyd – rhan o Brahms Experience BBC Radio 3 ar y cyd â Colston Hall a St George’s.

Page 63: BBC NOW 2014-15

61

bbc.co.uk/now 0800 052 1812

Page 64: BBC NOW 2014-15

BOOKING INFORMATION GWYBODAETH AM GODI TOCYNNAU

St David’s Hall, Cardiff • Neuadd Dewi Sant, Caerdydd 02920 878 444 | stdavidshallcardiff.gov.uk Tickets • Tocynnau £10-£32

(Halloween Spooktacular £15) St David’s Hall applies a Ticket Service Charge of £2.95 per transaction.

(£15 i Nos Glangaea Bwgandibethma) Mae Neuadd Dewi Sant yn codi Tâl Gwasanaeth Tocynnau o £2.95 y pryniant.

BBC Hoddinott Hall, Cardiff Bay • Neuadd Hoddinott y BBC, Bae Caerdydd 029 2063 6464 | wmc.org.uk Tickets • Tocynnau £10-£12

Wales Millennium Centre applies a Booking Fee of £1.50 per ticket to telephone transactions. Tickets bought in person are subject to a £1.50 Booking Fee when paying by card or cheque. Online transactions are subject to a £1 Booking Fee. No fee applies to tickets bought in person and paid for with cash.

Mae Canolfan Mileniwm Cymru yn codi Tâl Archebu o £1.50 y tocyn am bryniannau dros y ffôn. Mae Tâl Archebu o £1.50 am docynnau a godir yn bersonol yn talu â cherdyn neu siec. Mae Tâl Archebu o £1 am godi tocynnau ar lein. Does dim tâl am docynnau a godir yn bersonol yn talu ag arian parod.

Brangwyn Hall, Swansea • Neuadd Brangwyn, Abertawe 01792 475715 | swanseagrand.co.uk Tickets • Tocynnau £10-£16

Swansea Grand Theatre applies a Booking Fee of £2.50 per online transaction. Tickets paid for by credit card are subject to a 2% Credit Card Fee. No fee applies to tickets bought in person and paid for by debit card, cheque or cash.

Mae Theatr y Grand Abertawe yn codi Tâl Archebu o £2.50 y pryniant ar lein. Mae Tâl Cardiau Credyd o 2% am docynnau y talir amdanynt â cherdyn credyd. Does dim tâl am docynnau a godir yn bersonol ac y talir amdanynt â cherdyn debyd, siec neu arian parod.

Aberystwyth Arts Centre • Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth 01970 623232 | aber.ac.uk/artscentre Tickets • Tocynnau £11-£20

Aberystwyth Arts Centre applies a Card Fee of 50p per transaction under £5. Transactions are subject to a Postage Charge of £1. No fee applies to tickets bought in person and paid for by cash or cheque.

Mae Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn codi Tâl Cardiau o 50c am bob pryniant dan £5. Mae Tâl Postio o £1 am bryniannau. Does dim tâl am docynnau a godir yn bersonol ac y talir amdanynt ag arian parod neu siec.

Prichard-Jones Hall • Neuadd Prichard-Jones, Bangor 01248 382828 | pontio.co.uk Tickets • Tocynnau £15

Pontio applies a Postage Charge of 50p per transaction. Mae Pontio yn codi Tâl Postio o 50c y pryniant.

Theatr Brycheiniog, Brecon • Aberhonddu 01874 611622 | brycheiniog.co.uk Tickets • Tocynnau £15

Theatr Brycheiniog applies a Booking Fee of 50p per ticket. Mae Theatr Brycheiniog yn codi Tâl Archebu o 50c y tocyn.

Sir Thomas Picton School, Haverfordwest • Ysgol Syr Thomas Picton, Hwlffordd 0800 052 1812 | bbc.co.uk/now Tickets • Tocynnau £15

Venue Cymru, Llandudno 01492 872000 | venuecymru.co.uk Tickets • Tocynnau £11-£20

Venue Cymru applies a Booking Fee of £3 per transaction. Mae Venue Cymru yn codi Tâl Archebu o £3 y pryniant.

Hafren, Newtown • Y Drenewydd 01686 614555 | thehafren.co.uk Tickets • Tocynnau £15

Hafren applies a Transaction Fee of £1 per order. Transactions are subject to a Postage Charge of 30p.

Mae Hafren yn codi Tâl Pryniant o £1 yr archeb. Mae Tâl Postio o 30c am bryniannau.

William Aston Hall, Wrexham • Neuadd William Aston, Wrecsam 01978 293293 | glyndwr.ticketsolve.com Tickets • Tocynnau £15

William Aston Hall applies a Booking Fee of £2. Transactions are subject to a Postage Charge of 60p.

Mae Neuadd William Aston yn codi Tâl Archebu o £2. Mae Tâl Postio o 60c am bryniannau.

Call the BBC National Orchestra of Wales Audience Line FREE on 0800 052 1812 Book directly through the Orchestra by calling 0800 052 1812 free of charge. No fees apply to tickets bought through the BBC National Orchestra of Wales Audience Line.

Rhowch ganiad i Linell Cynulleidfaoedd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC AM DDIM ar 0800 052 1812 Codwch docynnau’n uniongyrchol drwy’r Gerddorfa o roi caniad i 0800 052 1812 yn rhad ac am ddim. Does dim tâl am godi tocynnau drwy Linell Cynulleidfaoedd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC.

Page 65: BBC NOW 2014-15

63

Page 66: BBC NOW 2014-15

This information applies to tickets purchased through the BBC National Orchestra of Wales Audience Line and does not apply to BBC Proms or festival appearances.

Subscriber Discounts

Turn to pages 23 and 35 for details.

Concessions

A 10% reduction is available for over 65s, claimants and patrons with a disability.

Wheelchair Users

A 10% reduction is available for wheelchair users. The Audience Line can advise patrons with limited mobility on the best seats to meet their needs. At St David’s Hall, wheelchair users plus one companion can book reserved spaces at the back of the stalls at £10 per seat.

Companions

A reduction is available for companions of wheelchair users and patrons with a disability. Please call the Audience Line for further information.

Family Tickets

Family Tickets are available at £18 for 2 adults and up to 4 children, or £12.50 for 1 adult and up to 2 children. The ticket price includes specially written programme notes. Children must be aged 16 years and under.

Students

Tickets for students and those in full-time education are £5 on presentation of a current student membership card.

Group Bookings

A 15% reduction is available to groups of 10 or more.

Ticket Exchanges & Credit

If you book and find that you can no longer attend we will exchange your tickets, subject to availability, or credit your ticket’s value for use another time. Any programme vouchers (applicable at St David’s Hall and Brangwyn Hall) must be returned at the same time.

Gift Vouchers

Our Gift Vouchers are available in any value from £1 and are redeemable against the Orchestra’s concert tickets and merchandise.

Mae’r wybodaeth yma yn berthnasol i docynnau a godir drwy Linell Cynulleidfaoedd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC ac nid yw’n berthnasol i’r BBC Proms nac i ymddangosiadau mewn gwyliau.

Disgowntiau Tanysgrifwyr

Trowch at dudalennau 23 a 35 am fanylion.

Tocynnau Mantais

Mae gostyngiad 10% ar gael i bobol dros eu 65, hawlwyr a chyngherddwyr anabl.

Defnyddwyr Cadeiriau Olwyn

Mae gostyngiad 10% ar gael i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn. Gall y Llinell Cynulleidfaoedd gynghori cyngherddwyr ag anawsterau symud ynghylch y seddi gorau i gwrdd â’u hanghenion. Yn Neuadd Dewi Sant caiff defnyddwyr cadeiriau olwyn ynghyd ag un cydymaith gadw llefydd ynghadw yng nghefn y Stalau am £10 y sedd.

Cymdeithion

Mae gostyngiad ar gael i gymdeithion defnyddwyr cadeiriau olwyn a chyngherddwyr anabl. Rhowch ganiad i’r Llinell Cynulleidfaoedd am ragor o wybodaeth.

Tocynnau Teulu

Mae Tocynnau Teulu ar gael am £18 i 2 oedolyn a hyd at 4 o blant neu £12.50 i 1 oedolyn a hyd at 2 o blant. Mae pris y tocyn yn cynnwys nodiadau rhaglenni wedi’u sgrifennu’n arbennig. Rhaid i’r plant fod yn 16 oed neu’n iau.

Myfyrwyr

Mae tocynnau i fyfyrwyr a’r rheini mewn addysg lawn amser yn costio £5 o ddangos cerdyn aelodaeth myfyrwyr cyfredol.

Archebion Grwpiau

Mae gostyngiad 15% ar gael i grwpiau o 10 neu fwy.

Cyfnewid Tocynnau a Chredyd

Os codwch docynnau a chael eich bod bellach yn methu dod fe gyfnewidiwn eich tocynnau, yn dibynnu ar gaffaeledd, neu roi gwerth eich tocyn i chi i’w ddefnyddio rywbryd eto. Rhaid dychwelyd unrhyw dalebau rhaglenni (sy’n berthnasol yn Neuadd Dewi Sant a Neuadd Brangwyn) ar yr un pryd.

Tocynnau Rhodd

Mae ein Tocynnau Rhodd ar gael mewn unrhyw werth o £1 a mwy i’w cyfnewid am docynnau cyngherddau a nwyddau’r Gerddorfa.

DISCOUNTS DISGOWNTIAU

Early-Bird Offer

Book in advance to save money! Save £3 per ticket when you book through the BBC National Orchestra of Wales Audience Line no later than two weeks before the concert. Please note that this offer cannot be used in conjunction with any other discount or promotion.

Cynnig Cwn Caer

Codwch docynnau ymlaen llaw i arbed arian! Arbedwch chi £3 y tocyn pan godwch eich tocynnau drwy Linell Cynulleidfaoedd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC dim hwyrach na phythefnos cyn y cyngerdd. Cofiwch na ellir defnyddio’r cynnig yma ar y cyd ag unrhyw ddisgownt neu hyrwyddiad arall.

Page 67: BBC NOW 2014-15

This brochure is also available in large print and on tape for people with impaired vision. For copies, please contact us on 0800 052 1812, or write to us at: BBC National Orchestra of Wales, FREEPOST SWC2803, Cardiff, CF5 2GZ or email: [email protected]

Mae’r llyfryn yma ar gael hefyd mewn print bras ac ar dâp i bobol â nam ar eu golwg. I gael copïau, cysylltwch â ni ar 0800 052 1812, neu ysgrifennu atom yn: Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, RHADBOST SWC2803, Caerdydd, CF5 2GZ neu e-bostio: [email protected]

Design by BBC Cymru Wales Graphics • Y dyluniad gan Adran Graffeg BBC Cymru Wales Photography • Y lluniau ©Benjamin Ealovega Welsh translation by • Y cyfieithiad Cymraeg gan Annes Gruffydd

All information in this brochure is correct at the time of going to press. However, as a consequence of the exigencies of broadcasting, or for other good cause, BBC National Orchestra of Wales reserves the right to make changes where necessary and without prior notice. In the event of such an occurrence we would apologise for any inconvenience caused and would advise you that your statutory rights as a consumer remain unaffected.

Mae’r holl wybodaeth yn y llyfryn yma yn gywir ar adeg mynd i’r wasg. Fodd bynnag, o ganlyniad i ofynion darlledu, neu am reswm da arall, ceidw Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yr hawl i wneud newidiadau lle bo angen a heb rybudd ymlaen llaw. Os digwydd y fath beth byddem yn ymddiheuro am unrhyw drafferth a achoswyd ac yn rhoi ar ddeall i chi ei fod heb effeithio ar eich hawliau statudol fel defnyddiwr.

Page 68: BBC NOW 2014-15

BBC National Orchestra & Chorus of Wales, BBC Hoddinott Hall, Cardiff Bay, CF10 5AL Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC, Neuadd Hoddinott y BBC, Bae Caerdydd, CF10 5AL

0800 052 1812 bbc.co.uk/now