sherman cymru's spring brochure

20

Upload: sherman-cymru

Post on 22-Mar-2016

233 views

Category:

Documents


4 download

DESCRIPTION

Sherman Cymru: February - June 2011 brochure

TRANSCRIPT

Page 1: Sherman Cymru's Spring Brochure
Page 2: Sherman Cymru's Spring Brochure
Page 3: Sherman Cymru's Spring Brochure

02/03www.shermancymru.co.uk

Phew – it’s been a busy few months! Particular high points have included: Speechless, our co-production with Shared Experience that enjoyed an award winning sell-out run at the Edinburgh Festival Fringe; Measure for Measure, our take on Shakespeare’s satire located in an old bank complete with arched ceilings, huge chandeliers and underground vaults; and Snow Child/Plentyn yr Eira, our co-production with Theatr Iolo that prompted one mum to say “This show should be available on prescription to all parents of children aged 3-6”! But there’s no resting on laurels at Sherman Cymru…

February sees the return of Gadael yr Ugeinfed Ganrif, our Welsh language co-production with Dan Y Gwely that went down brilliantly with audiences at the National Eisteddfod. Then in April we’re delighted to be producing Ian Rowland’s latest play Desire Lines, a wryly funny, heartfelt piece about a man’s journey around Wales.

We’ll be celebrating new works by emerging writers in English and Welsh with Egin:Springboard and our new venture RAW, and our friends at Chapter will continue to host our ongoing creative learning and artist development activity.

And lest we forget! We will also be gearing up for our return to the Sherman building in Autumn 2011 – we still need your help to raise the remaining funds so please see pages 15-17 for more information.

Whiw – mae’r misoedd diwethaf wedi bod yn brysur! Cafwyd ambell i uchafbwynt arbennig gan gynnwys: Speechless, ein cyd-gynhyrchiad gyda Shared Experience oedd yn llwyddiant ysgubol yng Ngŵyl Ymylol Caeredin; Measure for Measure, ein fersiwn arbennig ni o ddrama ddychan Shakespeare a leolwyd mewn hen fanc, gyda’i nenfwd siâp bwa, ei siandelïers anferth a’i daeargelloedd; a Snow Child/Plentyn yr Eira, ein cyd-gynhyrchiad â Theatr Iolo a ysgogodd un fam i ddweud: “Dylai’r sioe hon fod ar gael ar bresgripsiwn i bawb sy’n rhiant i blant o 3-6 mlwydd oed”! Ond does dim amser yn Sherman Cymru i laesu dwylo…

Ym mis Chwefror mae Gadael yr Ugeinfed Ganrif yn dychwelyd – ein cyd-gynhyrchiad Cymraeg gyda Dan Y Gwely, fu’n hynod boblogaidd gyda chynulleidfaoedd yr Eisteddfod Genedlaethol. Yna, ym mis Ebrill, ‘rydym wrth ein bodd cael cynhyrchu drama ddiweddaraf Ian Rowlands, Desire Lines, drama delynegol, ysmala am siwrne un dyn o amgylch Cymru.

Byddwn yn dathlu’r gwaith gorau mewn datblygiad yn Gymraeg a Saesneg gydag Egin:Springboard a’n menter newydd AMRWD a bydd ein ffrindiau yn Chapter yn parhau i groesawu ein gweithgaredd parhaol ym meysydd dysgu creadigol a datblygu artistiaid.

A rhag i ni anghofio! Byddwn hefyd yn paratoi at ddychwelyd i adeilad y Sherman yn ystod yr Hydref 2011 – mae angen eich cymorth o hyd i godi’r arian sy’n weddill, felly ewch i dudalennau 15-17 am ragor o wybodaeth.

WelcomeCroeso

Page 4: Sherman Cymru's Spring Brochure

Cyn

llunio

Gw

reid

dio

l/O

rigin

al D

esig

n: b

endav

iesd

esig

n.c

om

Ar daith – yn dilyn rhediad llwyddiannus yn Eisteddfod Genedlaethol 2010/

On tour – following a successful run at the 2010 National Eisteddfod

Page 5: Sherman Cymru's Spring Brochure

04/05

ChapterCaerdydd/Cardiff8.00pmTocynnau/Tickets: £12/£10/£8029 2030 4400www.chapter.org

Am amserlen lawn y daith gweler y dyddiadur (tud. 18/19)

For the full tour schedule please see the diary (pages 18/19)

Yn nyddiau llwyd refferendwm ’79, roedd Cymru wedi colli’i phlwc a’r sîn roc Gymraeg yn nofio mewn nostaljia. Ond roedd ymweliad aflafar y Sex Pistols â Chaerffili wedi cyffroi dychymyg un bachgen ysgol. Dyma ffurfio band... a fu pethau wedyn byth yr un peth.

Anturiaethau hunangofiannol un dyn dros ddau ddegawd olaf yr Ugeinfed Ganrif, a ddaeth i benllanw gyda Cŵl Cymru a Senedd ym Mae Caerdydd, sydd yn plethu delweddau, cerddoriaeth a stori wir. Yn ddarlun egnïol ac o’r galon o gyfnod yn ein hanes pan fynnodd un genhedlaeth aflonydd bod y byd yn dod i Gymru ac a aeth â Chymru i’r byd.

Datblygwyd trwy fenter Datblygu Artistiaid Sherman Cymru.

During the dark days of the ’79 referendum, Wales had lost its nerve and the Welsh rock scene was wallowing in nostalgia. But the raucous visit of the Sex Pistols to Caerphilly had stirred one schoolboy’s imagination. He had to be in a band...and from then on things were never quite the same.

Weaving images, music and a true life story, this is the autobiographical adventure of one man, spanning the last two decades of the Twentieth Century that brought us Cool Cymru and, finally, a Senedd in Cardiff Bay. An energetic and heartfelt portrayal of a time in our history, when a restless generation insisted that the world came to Wales and took Wales to the world.

Developed through Sherman Cymru’s Artists’ Development Initiative.

Sherman Cymru/Dan y Gwely

Ysgrifennwyd a Pherfformir gan/ Written & Performed by Gareth PotterCyfarwyddwr/Director Phillip MackenzieCynllunydd/Designer Rachael CanningCynllunydd Goleuo/Lighting Designer Andy HamerCynllunydd Fideo/Video Designer Dylan Goch

Dilynwch ni ar Twitter/ Follow us on Twitter:@shermancymru #G20G

“Fy enw i ydi Gareth David Potter, a wi’n obsessed gyda cherddoriaeth bop. Ti’n gwybod, y stwff tshêp, grymys ‘na sy’n neud i dy galon gyflymu a dy ben ffrwydro. Y stwff ‘na na ddylet ti, o dan unhryw amgylchiadau, gael unhryw beth i wneud ag e os wyt ti dros dy chwarter canrif…”

Cyn

llunio

Gw

reid

dio

l/O

rigin

al D

esig

n: b

endav

iesd

esig

n.c

om

www.shermancymru.co.uk

16 – 19 Chwefror/February

Page 6: Sherman Cymru's Spring Brochure

© is

tock

phot

o.co

m/r

unam

ock

Page 7: Sherman Cymru's Spring Brochure

8 – 23 April/Ebrill

06/07www.shermancymru.co.uk

"So much can happen in a day... moment leading to moment, and before you know it, there’s a life!”

The journey of a man around Wales. The journey of a soul through the seven ages of man. The journey of a small country towards a coming of age and a better future…

Wryly funny, heartfelt and lyrical, Desire Lines traces the pulls and pushes that lead and drive us through life. How do we decide on a place to call home and if we could live it all again, what would we change?

Taith un dyn o amgylch Cymru. Taith un enaid drwy saith amser dyn. Taith un wlad fechan tuag at ddyfod i oed a dyfodol gwell…

Yn deimladwy, ysmala a thelynegol, mae Desire Lines yn mynd ar drywydd y pethau sy’n ein harwain a’n gyrru drwy’n bywydau. Sut mae penderfynu ar y man i’w alw’n gartref, a phetai’n bosib ail-fyw’r cyfan, beth fyddem yn ei newid?

Sherman Cymru

By/Gan Ian RowlandsDirector/Cyfarwyddwr Irina BrownDesigner/CynllunyddChloe Lamford

Follow us on Twitter/Dilynwch ni ar Twitter:@shermancymru #dlines

The Egin:SpringBoard festival coincides with this production at Chapter, Cardiff (see pages 8/9).

Yn cyd-fynd â’r cynhyrchiad hwn yn Chapter, Caerdydd mae gŵyl Egin:SpringBoard (gweler tud. 8/9).

ChapterCardiff/Caerdydd8.00pmTickets/Tocynnau: £12/£10/£8029 2030 4400www.chapter.org

Previews/Rhagddangosiadau: £10/£8/£6 (8 – 11 April/Ebrill)

No performances on Sundays/Monday 18 AprilDim perfformiadau ar ddydd Sul/Llun 13 Ebrill

For the full tour schedule please see the diary (pages 18/19)

Am amserlen lawn y daith gweler y dyddiadur (tud. 18/19)

© is

tock

phot

o.co

m/r

unam

ock

Page 8: Sherman Cymru's Spring Brochure

Egin:SpringBoard

Page 9: Sherman Cymru's Spring Brochure

08/09www.shermancymru.co.uk

Visit/Ewch i www.shermancymru.co.uk

17 —21 April/Ebrill

THE PROGRAMME INCLuDES:

RAWMore thrills than frills – raw productions of new plays that will arouse, provoke and delight.

Light Arrested Between the Curtain and the Glass By Brad Birch

A play about guilt, faith and devotion set in the bleak and brooding uplands of Mid Wales. Stifled by the heartache of a local tragedy, the small, god-fearing town of Nantglyn is fractured. Fuelled by his own regret, the local vicar takes it upon himself to reunite the parish. Where will his crusade take him and his congregation?

See page 11 for details of further RAW productions.

Try-outRehearsed readings of full-length and short plays currently in development.

Artists’ Development PresentationShowcasing pieces that have emerged from Sherman Cymru’s Artists’ Development programme that explore inventive means of engaging with performance practice.

Young VoicesPerformed by Sherman Cymru Youth Theatre and directed by emerging directors, a showing of the exciting work produced by Sherman Cymru’s Young Writers’ Group.

MAE’R RHAGLEN YN CYNNWYS:

AMRWDMwy o dân na ffwdan – cynyrchiadau amrwd o ddramâu newydd fydd yn cyffroi, pryfocio a difyrru.

Light Arrested Between the Curtain and the Glass Gan Brad Birch

Drama am euogrwydd, ffydd a defosiwn wedi’i lleoli yn ucheldir llwm a diffaith y Canolbarth. Mae tref fechan dduwiol Nantglyn wedi ei mygu’n dilyn y torcalon ddaeth yn sgil digwyddiad trasig lleol. Ac yntau’n llawn edifeirwch, mae’r ficer lleol yn penderfynu ceisio uno’r plwyf unwaith yn rhagor. I ble fydd y crwsâd hwn yn mynd ag ef a’i gynulleidfa?

Ewch i dudalen 11 i weld manylion cynyrchiadau AMRWD pellach.

Rhoi TroDarlleniadau o ddramâu hir a byr sydd mewn datblygiad ar hyn o bryd.

Dangosiad Datblygiad Artistiaid Cyfle i weld canlyniad rhaglen Datblygu Artistiaid Sherman Cymru sy’n archwilio dulliau dyfeisgar o ymwneud ag ymarfer perfformio.

Lleisiau IfaincWedi eu perfformio gan Theatr Ieuenctid Sherman Cymru a’u cyfarwyddo gan gyfarwyddwyr newydd, dyma ddangosiad o’r gwaith cyffrous a gynhyrchir gan Grŵp Awduron Ifanc Sherman Cymru.

Detailed programme times and information about further events, including workshops/masterclasses, to follow./Bydd manylion pellach am amseroedd a gwybodaeth am ddigwyddiadau eraill, gan gynnwys gweithdai/dosbarthiadau meistr, yn dilyn cyn hir.

Sherman Cymru

egin n/e : tyfiant newydd/new growth

springboard n/e : a point of departure/ man cychwyn

Sherman Cymru’s third bilingual festival celebrating new writing, new voices and new ventures in Welsh theatre.

Egin:SpringBoard coincides this year with Sherman Cymru’s production of Desire Lines, a new work by Ian Rowlands (see pages 6/7).

Trydedd Gŵyl ddwyieithog Sherman Cymru sy’n dathlu lleisiau, mentrau ac ysgrifennu newydd yn y theatr yng Nghymru.

Mae Egin:SpringBoard yn cyd-fynd eleni gyda chynhyrchiad Sherman Cymru, Desire Lines, gwaith newydd gan Ian Rowlands (ewch i dudalennau 6/7).

Chapter Cardiff/Caerdydd

Page 10: Sherman Cymru's Spring Brochure

www.shermancymru.co.uk

Following the success of our Cardiff-based playwriting workshops, the programme is now going national!

At venues across Wales, experienced stage writing tutors will host weekly workshops in both English and Welsh for emerging writers of all ages. Participants will learn about the key elements of playwriting, and with practical guidance from the tutors, as well as the Sherman Cymru team, will develop and complete a new play. The best of the bunch will be selected for a rehearsed reading event at each venue, when the chosen writers will have the opportunity to work with a professional cast and director.

The partner organisations and venues working alongside Sherman Cymru on this exciting new initiative include:

Clwyd Theatr Cymru, Mold; Aberystwyth Arts Centre; Torch Theatre, Milford Haven; Galeri, Caernarfon; Dragon Theatre, Barmouth; Blackwood Miners’ Institute; Theatr Bara Caws; Arad Goch; and Theatr na n’Óg.

Yn dilyn llwyddiant ein gweithdai ysgrifennu yng Nghaerdydd, mae’r rhaglen ‘nawr yn cael ei lledaenu ar draws y wlad!

Mewn lleoliadau ledled Cymru bydd tiwtoriaid sy’n brofiadol mewn ysgrifennu ar gyfer y llwyfan, yn cynnal gweithdai wythnosol yn Gymraeg a Saesneg, ar gyfer awduron newydd o bob oed. Bydd rheini sy’n cymryd rhan yn dysgu am elfennau allweddol ysgrifennu drama, a gydag arweiniad ymarferol gan y tiwtoriaid, yn ogystal â thîm Sherman Cymru, bydd yr awduron yn datblygu a chwblhau drama newydd. Dewisir y gorau ohonynt ar gyfer eu cyflwyno mewn darlleniadau ym mhob lleoliad, ble fydd yr awduron a ddewiswyd yn cael cyfle i weithio gyda chast a chyfarwyddwr proffesiynol.

Mae’r sefydliadau a’r lleoliadau sy’n cyd-weithio â Sherman Cymru ar y fenter gyffrous newydd yma’n cynnwys:

Clwyd Theatr Cymru, Yr Wyddgrug; Canolfan Celfyddydau Aberystwyth; Theatr y Torch, Aberdaugleddau; Galeri, Caernarfon; Theatr y Ddraig, Abermaw; Sefydliad y Glowyr, Coed Duon; Theatr Bara Caws; Arad Goch; a Theatr na n’Óg.

For further information visit www.shermancymru.co.uk or contact [email protected]

Am fwy o wybodaeth ewch i www.shermancymru.co.uk neu cysylltwch â [email protected]

Page 11: Sherman Cymru's Spring Brochure

The SangerBy/Gan Foster Marks

‘The first casualty of war is enthusiasm’ British Army soldier, Helmand Province, Afghanistan/

Milwr yn y Fyddin Brydeinig, Talaith Helmand, Afghanistan.

A new drama written by a veteran of the Afghan conflict, interwoven with verbatim interviews from others who have served. A snapshot of the humour, fears and effects of current operations, The Sanger is a visceral portrayal of the life of the modern soldier.

Drama newydd wedi’i hysgrifennu gan un fu’n ymladd yn Afghanistan, wedi’i phlethu â chyfweliadau gair am air gan eraill fu’n gwasanaethu. Cipolwg sydyn ar yr hiwmor, yr ofnau ac effeithiau’r gweithredu presennol, mae The Sanger yn ddarlun angerddol o fywyd y milwr cyfoes.

Chapter, Cardiff/Caerdydd8 – 11 June/Mehefin (see diary/gweler dyddiadur – pages/tud. 18/19)Tickets/Tocynnau: £8/£6029 2030 4400www.chapter.org.uk

Tân Mewn DrainGan/By Dyfed Edwards

Sut mae manteisio ar golled? Beth sydd i’w ennill o drasiedi? Â’r rhyfel yn un cyfiawn, a oes terfynnau i greulondeb dyn? Drama dywyll, iasol sy’n archwilio cyrhaeddiad erchyllter rhyfel ac yn profi bod gofid i rai yn gyfle i eraill. Drama fuddugol cystadleuaeth y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol 2009.

How can one take advantage of a terrible loss? What can be gained from tragedy? When a war is just, are there no limits to man’s brutality? A chilling, provocative play that explores the further reaches of war’s atrocity, proving that one man’s pain is another man’s gain. The winning play of the Drama Medal at the National Eisteddfod 2009.

Chapter, Caerdydd/Cardiff9 – 11 Mehefin/June (gweler dyddiadur/see diary – tud./pages 18/19)Tocynnau/Tickets: £8/£6029 2030 4400www.chapter.org.uk

10/11www.shermancymru.co.uk

As part of our ongoing commitment to new writing for the stage and the development of new writers, Sherman Cymru is delighted to present RAW. More thrills than frills – raw productions of new plays that will arouse, provoke and delight.

This summer’s RAW productions reflect on the ongoing conflict in Afghanistan.

Fel rhan o’n hymrwymiad parhaol i ysgrifennu newydd ar gyfer y llwyfan, ac at ddatblygu awduron newydd, mae Sherman Cymru yn falch iawn i gyhoeddi AMRWD. Mwy o dân na ffwdan – cynyrchiadau amrwd o ddramâu newydd fydd yn cyffroi, pryfocio a difyrru.

Yr haf hwn mae’r cynyrchiadau AMRWD yn myfyrio ar y gwrthdaro parhaus yn Afghanistan.

Page 12: Sherman Cymru's Spring Brochure

Tra bod adeilad y Sherman ar gau ‘rydym yn parhau i gynnig sesiynau wythnosol yn Saesneg a Chymraeg i bobl ifanc o Gaerdydd rhwng 10 a 18 mlwydd oed. Grŵp ar gyfer oedolion ifanc o 18-25 mlwydd oed yw Company 4. Mae’n canolbwyntio’n benodol ar ymarfer cyfoes sy’n cynnwys gwaith safle-benodol rhyngwladol. Mae’r grwpiau hyn yn rhoi cyfle gwych i bobl ifanc gymryd rhan mewn profiadau theatrig safonol, heriol ac ystyrlon, ac fe’u harweinir gan bobl sy’n gweithio’n broffesiynol yn y diwydiant.

While the Sherman building is closed we are continuing to offer weekly sessions in English and Welsh at Chapter Arts Centre for young people from Cardiff aged 10 to 18. Company 4 is for young adults aged 18-25 and has a specific focus on contemporary practice which includes international site-specific work. These groups provide a great opportunity for young people to participate in high quality, challenging and meaningful theatre experiences, led by industry professionals.

Heather Jones | 029 2064 6911 [email protected]

Sherman Cymru Youth Theatre/Theatr Ieuenctid Sherman Cymru

Saturday drama workshops for children aged 4-9 at Chapter. The Sherbets sessions involve playing drama games, singing songs and telling stories, and are led by our friendly, experienced tutors, Fleur and Llinos. It’s a great way of making new friends whilst building confidence but most important of all, Sherbets is about having fun!

Gweithdai drama Ddydd Sadwrn i blant rhwng 4-9 mlwydd oed yn Chapter. Mae sesiynau’r Sherbets yn cynnwys chwarae gemau drama, canu caneuon ac adrodd straeon. Fe’u harweinir gan ein tiwtoriaid profiadol a chyfeillgar, Fleur a Llinos. Mae’n ffordd wych i wneud ffrindiau newydd tra’n meithrin hyder ac yn bwysicaf oll, mae Sierbets yn sbort!

Sherman Sherbets/Sierbets Sherman

22 January/Ionawr – 2 April/Ebril

9.30am — 10.30am (Ages/Oedrannau 4-6)*12.00pm — 1.00pm (Ages/Oedrannau 4-6)*10.30am — 12.00pm (Ages/Oedrannau 7-9)**1.00pm — 2.30pm (Ages/Oedrannau 7-9)**

*£50 **£60 (For 10 sessions/Am 10 sesiwn)

Heather Jones | 029 2064 6911 [email protected]

Page 13: Sherman Cymru's Spring Brochure

12/13www.shermancymru.co.uk

We are running two new diverse community theatre groups where participants can learn skills in acting, voice and movement, whilst all the time developing confidence and communication skills. Young people aged between 14 and 20 can participate in the Grassroots group, while anyone aged 20+ is welcome to join Company 5.

Both groups are totally free and you don’t need any previous acting experience.

Mae gennym ddau grŵp theatr cymunedol amrywiol newydd, ble gall y sawl sy’n cymryd rhan ddysgu sgiliau actio, gwaith llais a symud, tra’n datblygu hyder a sgiliau cyfathrebu. Gall pobl ifanc rhwng 14 a 20 mlwydd oed gymryd rhan yn y grŵp Grassroots, tra mae croeso i unrhyw un sy’n 20+ i ymuno â Company 5.

Cewch ymuno yn rhad ac am ddim ac nid oes raid i chi feddu ar unrhyw brofiad blaenorol.

We invite you into the lives and living rooms of our Company 5 group. This performance draws on members’ dreams, memories, fears, and fictional imaginings to create a fascinating portrait of life today in the capital city.

’Rydym yn eich gwahodd i fywydau ac ystafelloedd byw ein grŵp, Company 5. Mae’r perfformiad hwn yn tynnu ar freuddwydion, atgofion, ofnau a dychymyg yr aelodau er mwyn creu portread diddorol dros ben o fywyd yn y brifddinas heddiw.

Grassroots – Wednesday/Dydd Mercher: 4.00 – 5.30pm58 Charles Street, Cardiff/Caerdydd (off Queen St/oddi ar Heol y Frenhines)

Company 5 – Tuesday/Dydd Mawrth: 5.00 – 6.30pmPlasnewydd Community Centre/Canolfan Gymunedol Plasnewydd, Shakespeare Street, Cardiff/Caerdydd

31 March/Mawrth – 1 April/EbrillHome Sherman Cymru: Company 5

Milgi Warehouse (213 City Rd)7.00pmTickets/Tocynnau: £2029 2064 6900

Jason Camilleri/Llinos Mai | 029 2064 6908 [email protected] [email protected]

Community EngagementYmrwymiad â’r Gymuned

Grassroots/Company 5

Page 14: Sherman Cymru's Spring Brochure

www.shermancymru.co.uk

Over the past two years the Artists’ Development initiative has facilitated the research and development of some 35 artists embracing many and varied art forms.

Some of these projects have progressed from early exploration into full-scale productions. These include: Give it a Name’s adaptation of Heart of Darkness as a site-specific performance at 10 Feet Tall, and most recently, their ska musical Rude, performed in The Rocking Chair; and Gareth Potter’s one-man play, Gadael yr Ugeinfed Ganrif, co-produced by Sherman Cymru and Dan y Gwely (see pages 4/5). Future projects include: a production of Caryl Churchill’s Serious Money directed by Mathilde Lopez and produced by Waking Exploits.

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf mae ein menter Datblygu Artistiaid wedi galluogi tua 35 o artistiaid ymchwilio a datblygu eu gwaith, gan fynd i’r afael â nifer o ffurfiau celfyddydol gwahanol.

Ers y cyfnod cychwynnol hwnnw mae rhai o’r prosiectau wedi eu datblygu’n gynyrchiadau llawn. Mae’r rhain yn cynnwys: addasiad Give it a Name o Heart of Darkness, darn safle-benodol yn 10 Feet Tall, ac, yn fwy diweddar, eu miwsical ska Rude, a berfformiwyd yn The Rocking Chair; a drama un dyn Gareth Potter, Gadael yr Ugeinfed Ganrif, cyd-gynhyrchiad rhwng Sherman Cymru a Dan y Gwely (gweler tud. 4/5). Dyma un o’r prosiectau sydd i ddod: cynhyrchiad o ddrama Caryl Churchill Serious Money, a gyfarwyddir gan Mathilde Lopez ac a gynhyrchir gan Waking Exploits.

We are continually seeking applications from arts practitioners looking to develop their work within a professional theatre environment. Previous artists have included Directors, Actors, Lighting Designers, Designers, Choreographers, Dancers and Composers.

‘Rydym yn edrych am geisiadau gan artistiaid sydd eisiau datblygu eu prosiectau theatr mewn amgylchedd broffesiynol. Gallai artistiaid olygu: Cyfarwyddwyr, Actorion, Cynllunwyr Goleuo, Cynllunwyr, Coreograffwyr, Dawnswyr a Chyfansoddwyr.

Phillip Mackenzie | 029 2064 [email protected]

Artists’ Development/Datblygiad Artistiaid

Page 15: Sherman Cymru's Spring Brochure

redevelopment/ail-ddatblygiad

14/15www.shermancymru.co.uk

As well as all the activity that’s been happening away from the Sherman building, there is also the work that’s being done to the building itself as it undergoes its extensive refurbishment.

Our contractors, Dawnus Construction, have started work on site and the Senghennydd Road landscape is changing – the hoardings are up, diggers have started tearing up the old staff car park which will become our brand new rehearsal room and internal walls have been demolished and new ones built to form the revitalised foyer area – it’s all very exciting!

Please read on to find out how you can support the redevelopment and ensure that Cardiff has a producing theatre of which we can all be proud, now and into the future.

Yn ogystal â’r gweithgarwch sydd wedi bod yn digwydd y tu hwnt i waliau adeilad y Sherman, mae gwaith hefyd yn cael ei wneud i’r adeilad ei hun wrth iddo gael ei adnewyddu’n sylweddol.

Mae’r dirwedd yn Ffordd Senghennydd yn prysur newid gan fod ein contractwyr, Contractwyr Dawnus, wedi dechrau gweithio ar y lleoliad – mae’r palisau wedi eu codi; y peiriannau cloddio wedi dechrau dinistrio hen faes parcio’r staff, ble fydd ein hystafell ymarfer newydd yn cael ei chreu; mae waliau mewnol hefyd wedi eu dymchwel a rhai newydd wedi eu hadeiladu i ffurfio cyntedd newydd sbon – cyffrous dros ben!

Byddwch mor garedig â pharhau i ddarllen er mwyn gweld sut gallwch chi gefnogi’r gwaith ail-ddatblygu, a sicrhau fod gan Gaerdydd theatr gynhyrchu y gallwn oll ymfalchïo ynddi, ‘nawr ac i’r dyfodol.

Page 16: Sherman Cymru's Spring Brochure

www.shermancymru.co.uk

How you can help/Sut fedrwch chi helpu

Sit With Us – Adopt a SeatFor as little as £10 a month (over 24 months), why not adopt a seat in the new Sherman Cymru? You will receive a named plaque on your seat for 10 years, priority booking and an exclusive tour of the new building.

Diamond AppealReflecting the new look building, the Diamond Appeal gives you the opportunity to support the campaign with a £30 donation – please visit www.shermancymru.co.uk for more information.

Eisteddwch Gyda NiBeth am fabwysiadu sedd yn y Sherman Cymru newydd am gyn lleied â £10 y mis (dros 24 mis)? Byddwch yn derbyn plac ar y sedd â’ch enw arno am 10 mlynedd, blaenoriaeth pan fyddwch yn archebu tocynnau a thaith arbennig o’r adeilad newydd.

Apêl DdiemwntGan adlewyrchu gwedd newydd yr adeilad mae’r Apêl Ddiemwnt yn rhoi cyfle i chi gefnogi’r ymgyrch drwy gyfrannu £30 – ewch i www.shermancymru.co.uk am fwy o wybodaeth.

Black tint 30%

Company Title set in Aldine 721 Lt BT

a

b

c

Pantone 2934-colour process:100%Cyan57% Magenta. 2% Black

Pantone 2834-colour process:35% Cyan9% Magenta

a

b

c

Logo strip. Where the logo appears on a blue strip of pantone 293, there must be equal space fromtop of strip to top of logo and bottom of logo to bottom of strip. Artwork here shows 5mm

Garfield Weston Foundation

If you would like more information about the campaign or to make a direct donation please contact/Os hoffech chi wybod mwy am yr ymgyrch neu gwneud cyfraniad uniongyrchol cysylltwch â [email protected] | 029 2064 6970

With support from/Gyda chefnogaeth

Sherman Cymru Patrons/Noddwyr Sherman Cymru: Siân Phillips & Matthew Rhys

Kirs

ten M

cTer

nan

SUPPORT US/CEFNOGWCH NIWe are now over a year into Sherman Cymru’s Redevelopment Campaign. Over the last few months, we have secured significant support from various trusts and foundations. This funding, plus all the generous donations given by our audience members and supporters, has given us a running total of £535,000. With just over £800,000 to raise, we still have a long way to go.

We have enjoyed two events that have contributed greatly to the campaign – The Ruppera Pub Quiz, and The Waterloo Gardens Teahouse festive afternoon tea. There will be more fundraising events to take us through 2011 – keep your eyes peeled for further information. Thank you to everyone who has supported us so far but we are now approaching the most crucial part of the campaign and we still need your help.

Erbyn hyn mae mwy na blwyddyn wedi mynd heibio ers i ni lansio Ymgyrch Ailddatblygu Sherman Cymru. Yn ystod y misoedd diwethaf ‘rydym wedi sicrhau cefnogaeth arwyddocaol gan ymddiriedolaethau a sefydliadau. Yn sgil y nawdd hwn, ac yn sgil cyfraniadau hael ein cynulleidfaoedd a’n cefnogwyr, mae gennym gyfanswm o £535,000 hyd yn hyn. Mae angen i ni godi mwy na £800,000 o hyd.

‘Rydym wedi mwynhau dau ddigwyddiad sydd wedi cyfrannu’n fawr at yr ymgyrch - y Cwis Tafarn yn y Ruppera, a’r te Nadoligaidd yn y Teahouse yng Ngerddi Waterloo. Cynhelir rhagor o ddigwyddiadau codi arian yn ystod 2011 – byddwch yn effro i ragor o wybodaeth! Diolch i bawb sydd wedi cefnogi’r ymgyrch hyd yma, ond ‘nawr ‘rydym yn nesáu at ran bwysicaf yr ymgyrch a ‘rydym angen eich help.

Page 17: Sherman Cymru's Spring Brochure

www.shermancymru.co.uk 16/17

Individual Donations/Rhoddion unigol

Amounts correct at time of going to press/Manylion yn gywir wrth fynd i brint

£40,000

Thank you for your donations so far.

Diolch am eich rhoddion hyd yn hyn.

Target/Targed

£62,000

We still need your help!

Mae angen eich help arnom o hyd!

£0

Page 18: Sherman Cymru's Spring Brochure

www.shermancymru.co.uk

Location/Lleoliad

Time/Amser

Event/Digwyddiad

Date/Dyddiad

Booking Info/Manylion Archebu

Chapter, Caerdydd

Theatr y Lyric,CaerfyrddinCanolfan CelfyddydauPontardaweGaleri,CaernarfonNeuadd Dwyfor,PwllheliClwyd Theatr Cymru,Yr WyddgrugCanolfan y CelfyddydauAberystwythTheatr Soar,Merthyr Tudful*Milgi Warehouse, Cardiff

Milgi Warehouse, CardiffChapter, Cardiff

Chapter, Cardiff

Chapter, Cardiff/Caerdydd

Aberystwyth Arts Centre

Theatr Mwldan,CardiganClwyd Theatr Cymru,MoldGaleri,CaernarfonBorough Theatre,Abergavenny

029 2030 4400www.chapter.org

0845 226 3510www.theatrausirgar.co.uk01792 863722www.pontardaweartscentre.com01286 685 222www. galericaernarfon.com01758 704088www.gwynedd.gov.uk/neuadd-dwyfor0845 330 3565www.clwyd-theatr-cymru.co.uk01970 623232www.aber.ac.uk/artscentre01685 [email protected] 2064 6900

029 2064 6900

029 2030 4400www.chapter.org029 2030 4400www.chapter.org029 2030 4400www.chapter.org

01970 623232www.aber.ac.uk/artscentre01239 621200 www.mwldan.co.uk 0845 330 3565 www.clwyd-theatr-cymru.co.uk01286 685 222www.galericaernarfon.com01873 850805www.boroughtheatreabergavenny.co.uk

FEBRUARY/CHWEFROR

MER 16 – SAD 19

MARCH/MAWRTH

MER 2

IAU 3

SAD 5

MER 9

GWE 11 – SAD 12

MAW 15

IAU 17

THU 31

APRIL/EBRILL

FRI 1

FRI 8 – MON 11(NO SUN PERF.)TUE 12 – SAT 23(NO SUN/MON 18 PERF.)SUN/SUL 17 –THU/IAU 21

MAY/MAI

WED 4

FRI 6

MON 9 – TUE 10

THU 12

WED 18

Gadael yr ugeinfed Ganrif

Gadael yr ugeinfed GanrifGadael yr ugeinfed GanrifGadael yr ugeinfed GanrifGadael yr ugeinfed GanrifGadael yr ugeinfed GanrifGadael yr ugeinfed GanrifGadael yr ugeinfed GanrifHome

Home

Desire Lines - previews

Desire Lines

Egin:SpringBoard

Desire Lines

Desire Lines

Desire Lines

Desire Lines

Desire Lines

8.00yh

7.30yh

7.30yh

7.30yh

7.30yh

7.45yh

8.00yh

7.30yh

7.00pm

7.00pm

8.00pm

8.00pm

Times vary/Amseroedd yn amrywio

7.30pm

7.30pm

7.45pm

7.30pm

7.30pm

* Cefnogwyd gan gynllun ‘Noson Allan’ Cyngor Celfyddydau Cymru

Page 19: Sherman Cymru's Spring Brochure

ChapterCardiff/CaerdyddChapterCardiff/Caerdydd

ChapterCardiff/Caerdydd

ChapterCardiff/Caerdydd

029 2030 4400www.chapter.org029 2030 4400www.chapter.org

029 2030 4400www.chapter.org

029 2030 4400www.chapter.org

JuNE/MEHEFIN

WED/MER 8

THU/IAU 9

FRI/GWE 10

SAT/SAD 11

RAW: The Sanger

AMRWD: Tân Mewn DrainRAW: The SangerRAW: The SangerAMRWD: Tân Mewn DrainAMRWD: Tân Mewn DrainRAW: The Sanger

7.00pm

7.00pm

9.00pm7.00pm9.00pm

7.00pm

9.00pm

18/19www.shermancymru.co.uk

Location/Lleoliad

Time/Amser

Event/Digwyddiad

Date/Dyddiad

Booking Info/Manylion Archebu

Design/Dylunio elfen.co.uk – Photography/ffotograffiaeth phillip roberts

Sherman Cymru acknowledges the public investment of the Arts Council of Wales and Cardiff Council | Registered Charity Number 1118364 Company Number 06002090 Mae Sherman Cymru yn cydnabod buddsoddiad cyhoeddus gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Chyngor Caerdydd | Rhif Elusen Gofrestredig 1118364 | Rhif y Cwmni 06002090

Brochures are available in Large Print and Audio Described formats on request. Please contact the Marketing Team on 029 2064 6900.

Mae rhaglenni ar gael ar ffurf Print Brâs a Disgrifiad Clywedol ar gais. Cysylltwch â’r Tîm Marchnata ar 029 2064 6900.

Join us online/Ymunwch â ni ar-lein –Facebook: www.facebook.com/shermancymruTwitter: @shermancymru

Page 20: Sherman Cymru's Spring Brochure