y ff ordd gyfl ymaf i roi gwybod am rywbeth, gofyn am ... · sy’n ariannu 77% o’i gost net,...

9
rniture, road sig elp & advise, sc report anti-soci benefits, pay y sed bin collectio recreation activities, join a library, renew loaned items, recycling queries, report a missed bin collection, what’s on, report a pothole, , damage to street furniture, road signs or road markings, street lights, fly-tipping, orange lidded bin, refuge collection, street cleaning, licensing, housing, help & advise, school admissions, business, visiting, museums, theatre & arts, learning, education, travel, community, living, jobs, permits, report anti-social behaviour, grafitti… the quickest way to report it, request it, pay for it, apply for it, find it and more… council tax, housing benefits, pay your fines, book sport, leisure and recreation activities, join a library, renew loaned items, recycling queries, report a missed bin collection, what’s on, report a pothole, damage to street furniture, road signs or road markings, street lights, fly-tipping, orange lidded bin, refuge collection, street cleaning, licensing, housing, help & advise, school admissions, business, visiting, Ewch i Eich arweiniad i’ch Cyfraddau Treth y Cyngor ac Ardrethi Annomestig 2018/19 y ffordd gyflymaf i roi gwybod am rywbeth, gofyn am rywbeth, talu am rywbeth, gwneud cais am rywbeth a mwy ...

Upload: others

Post on 19-Jun-2020

0 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Page 1: y ff ordd gyfl ymaf i roi gwybod am rywbeth, gofyn am ... · sy’n ariannu 77% o’i gost net, bron i £1.4miliwn yn fwy yn nhermau ariannol ar gyfer 2018/19, fodd bynnag, wedi

rniture, road sigelp & advise, screport anti-socibenefits, pay ysed bin collectio

y p , q , p y , pp y , , g , p y y , p ,recreation activities, join a library, renew loaned items, recycling queries, report a missed bin collection, what’s on, report a pothole, , damage to street furniture, road signs or road markings, street lights, fly-tipping, orange lidded bin, refuge collection, street cleaning, licensing, housing, help & advise, school admissions, business, visiting, museums, theatre & arts, learning, education, travel, community, living, jobs, permits, report anti-social behaviour, grafitti… the quickest way to report it, request it, pay for it, apply for it, find it and more… council tax, housing benefits, pay your fines, book sport, leisure and recreation activities, join a library, renew loaned items, recycling queries, report a missed bin collection, what’s on, report a pothole, damage to street furniture, road signs or road markings, street lights, fly-tipping, orange lidded bin, refuge collection, street cleaning, licensing, housing, help & advise, school admissions, business, visiting,

Ewch i

Eich arweiniad i’ch Cyfraddau Treth y Cyngor ac Ardrethi Annomestig 2018/19

y ff ordd gyfl ymaf i roi gwybod am rywbeth, gofyn am rywbeth,talu am rywbeth, gwneud cais am rywbeth a mwy ...

Page 2: y ff ordd gyfl ymaf i roi gwybod am rywbeth, gofyn am ... · sy’n ariannu 77% o’i gost net, bron i £1.4miliwn yn fwy yn nhermau ariannol ar gyfer 2018/19, fodd bynnag, wedi

Treth y Cyngor 2018/2019

Roedd paratoadau’r Cyngor ar gyfer y broses pennu cyllideb eleni ar sail amgylchedd anodd o angen ymateb i effaith y cyni cyllidol parhaus a sicrhau bod y Cyngor yn parhau i gynnig y gwasanaethau a chymorth hanfodol y mae ar nifer cynyddol o breswylwyr eu hangen gan y Llywodraeth Leol. Mae’r pwysau’n dod gan ofynion deddfwriaethol/rheoliadol heb eu hariannu, pwysau costau chwyddiant blynyddol e.e. y cyflog byw cenedlaethol a’r cynnydd parhaus yn y galw am wasanaethau gofal cymdeithasol, sy’n broblem genedlaethol, ysgolion newydd yn agor a’r galw am addysg arbennig. Creodd y rhain, ynghyd â’r angen i ariannu meysydd blaenoriaeth allweddol y cyllidebau, megis cyllidebau ysgolion er enghraifft, bwysau ariannol i’r cyngor eu hystyried ac ariannu agos at £12 miliwn.

O ran ariannu, cafodd drwy Grant Cynnal Refeniw y Cyngor, sy’n ariannu 77% o’i gost net, bron i £1.4miliwn yn fwy yn nhermau ariannol ar gyfer 2018/19, fodd bynnag, wedi ystyried trosglwyddiadau i’r grant a chyfrifoldebau newydd, bu gostyngiad gan £60,000. Mae’r twf cynyddol yn y ddinas wedi cynyddu nifer yr aelwydydd sy’n talu’r dreth gyngor gan tua 1.47% ac ar lefel treth gyngor 2017/18, mae hyn yn codi gwerth y ffynhonnell refeniw hon gan bron i 900,000. O ystyried y pwysau ariannol o bron i £12 miliwn, roedd hyn yn gadael diffyg o ychydig dros £11 miliwn.

Yn y cyd-destun hwn, mae’n rhaid taro cydbwysedd rhwng cynyddu’r dreth gyngor i ddod ag arian ychwanegol i mewn i gau’r bwlch ariannol a nodwyd uchod a gwneud arbedion i sicrhau cyllideb gytbwys. Cymeradwyodd y Cyngor

becyn arbedion terfynol o £8.9m ar gyfer 2018/19 ac yna cymeradwyodd y Cyngor y cynnydd yn y dreth gyngor i 4.8%, a ddaw â £2.9m ychwanegol. Yn ogystal â’r pecyn arbedion £8.9 miliwn, mae’r cyngor yn defnyddio £1.2 miliwn o’i arian wrth gefn yn 2018/19 i fantoli’r gyllideb.

Mae’r cynnydd cyffredinol yn cyfateb i £0.93 yr wythnos i aelwyd ym Mand D, neu £48.42 y flwyddyn. Mae’r rhan fwyaf o gartrefi yng Nghasnewydd ym Mand B a C, a bydd y cynnydd blynyddol yn £37.66 a £43.04 dan y drefn hon.

Bwriedir i’r cynnydd ddiogelu gwasanaethau hanfodol yn dilyn toriadau sylweddol yn arian y llywodraeth a chynnydd parhaus yn y galw am wasanaethau. Roedd y Cyngor yn ymwybodol bod angen gwneud arbedion a diogelu gwasanaethau a buddsoddi yn nyfodol Casnewydd. Ceisiwyd arbed yn hytrach na thorri pan fu hynny’n bosibl.

Mae’r cynnydd cyfartalog yn y dreth gyngor trwy Gymru yn 4.7% ar gyfer 2018/19 a bell dros 5% yn Lloegr wrth i gynghorau fynd i’r afael â heriau ariannol parhaus. Er dweud hynny, mae preswylwyr Casnewydd yn parhau i dalu llai o gryn dipyn na’r rhan fwyaf o bobl Yng Nghymru a’r DU. Mae cyllideb refeniw’r Cyngor o ddydd i ddydd yn dal i fod tua £8 miliwn dan asesiad Llywodraeth Cymru o faint dylai’r Cyngor ei wario i gynnal ‘lefel gwasanaethau safonol’; fodd bynnag, er hyn, mae’r cyngor wedi parhau i wella canlyniadau a pherfformiad ar gyfer dinasyddion Casnewydd.

1

I gael rhagor o wybodaeth ar y dreth gyngor a chyllideb y Cyngor, ewch iwww.newport.gov.uk/counciltax

Y Fenter Twyll Genedlaethol - Bydd y Fenter Twyll Genedlaethol yn parhau i gael enwau o gronfeydd data Treth y Cyngor a’r Gofrestr Etholiadol er mwyn atal a chanfod hawliadau twyllodrus am ostyngiad yn Nhreth y Cyngor.

Gallwch gael mwy o wybodaeth am y Fenter Twyll Genedlaethol yn www.newport.gov.uk/finance

Mae fersiwn Saesneg o’r llyfryn hwn ar gael ar eich cais – ffoniwch 01633 656656

Mae’r llyfryn hwn ar gael mewn print mawr hefyd.

Page 3: y ff ordd gyfl ymaf i roi gwybod am rywbeth, gofyn am ... · sy’n ariannu 77% o’i gost net, bron i £1.4miliwn yn fwy yn nhermau ariannol ar gyfer 2018/19, fodd bynnag, wedi

Bandiau gwerthuso

Bishton

Coedkernew

Goldcliff

Graig

Langstone

Llanvaches

Llanwern

Marshfield

Michaelstone

Nash

Penhow

Redwick

Rogerstone

Wentlooge

All other areas

872.23

865.99

874.66

877.32

877.86

877.32

871.51

875.99

878.46

872.37

885.39

880.10

876.78

872.15

863.99

1017.59

1010.31

1020.42

1023.54

1024.16

1023.54

1016.75

1021.98

1024.86

1017.76

1032.95

1026.77

1022.91

1017.50

1007.98

1162.97

1154.65

1166.20

1169.76

1170.47

1169.76

1162.01

1167.98

1171.27

1163.15

1180.51

1173.46

1169.04

1162.86

1151.98

1308.34

1298.98

1311.98

1315.98

1316.78

1315.98

1307.26

1313.98

1317.68

1308.55

1328.08

1320.14

1315.17

1308.22

1295.98

1599.09

1587.65

1603.54

1608.42

1609.40

1608.42

1597.77

1605.98

1610.50

1599.34

1623.21

1613.51

1607.43

1598.94

1583.98

1889.82

1876.30

1895.08

1900.86

1902.01

1900.86

1888.26

1897.97

1903.31

1890.13

1918.34

1906.87

1899.69

1889.65

1871.97

2180.57

2164.97

2186.64

2193.30

2194.64

2193.30

2178.77

2189.97

2196.14

2180.92

2213.47

2200.24

2191.95

2180.37

2159.97

2616.68

2597.96

2623.96

2631.96

2633.56

2631.96

2614.52

2627.96

2635.36

2617.10

2656.16

2640.28

2630.34

2616.44

2591.96

3052.79

3030.95

3061.28

3070.62

3072.48

3070.62

3050.27

3065.95

3074.58

3053.28

3098.85

3080.32

3068.73

3052.51

3023.95

Aless than£44,000

B£44,001-£65,000

C£65,001-£91,000

D£91,001-£123,000

E£123,001-£162,000

F£162,001-£223,000

G£223,001-£324,000

H£324,001-£424,000

Iover

£424,000

2

Bydd swm y dreth rydych yn ei dalu yn amrywio yn unol â band gwerthuso eich cartref a’r ardal o Gasnewydd y mae eich cartref ynddi.

Mae eich cartref wedi’i roi yn un o’r naw band yn unol â’i werth yn y farchnad ar 1 Ebrill 2003.

Mae’r tabl hwn yn rhoi manylion am y tâl sylfaenol ym mhob ardal o’r ddinas ac ar gyfer pob band prisio yn yr ardal honno.

Gallai’r gwir swm y mae angen i chi ei dalu gael ei leihau gan ostyngiadau. Bydd eich bil yn dangos y rhain os ydynt yn berthnasol.

Ceir manylion ar sut i hawlio gostyngiadau yn hwyrach yn y daflen hon.

I gael rhagor o wybodaeth am Dreth y Cyngor a chyllideb y Cyngor ewch i www.newport.gov.uk/counciltax

Page 4: y ff ordd gyfl ymaf i roi gwybod am rywbeth, gofyn am ... · sy’n ariannu 77% o’i gost net, bron i £1.4miliwn yn fwy yn nhermau ariannol ar gyfer 2018/19, fodd bynnag, wedi

Ar gyfer beth y mae’r dreth yn cael ei defnyddio 3

13,963,903.00

9,485.56

2,957.97

3,078.40

57,605.40

40,232.61

4,912.00

7,498.72

27,637.20

3,699.85

1,784.56

14,718.17

2,747.96

96,112.92

4,463.68

2018/2019£

14,240,838.00

Yn ogystal â’r gwasanaethau a ddarperir yn uniongyrchol gan Gyngor Dinas Casnewydd, mae’r awdurdod hefyd yn rhan o redeg nifer o sefydliadau eraill megis gwasanaethau’r Crwner ac Amlosgfa Gwent.

Mae gan rai sefydliadau hefyd y grym i fynnu ardollau gan y Cyngor i godi arian am wasanaethau. Mae’r rhain yn cynnwys Awdurdod Tân De Cymru (£7 miliwn) a Bwrdd Draeniau Lefelau Cil-y-coed a Gwynllŵg (£0·76miliwn).

Mae gan rai sefydliadau’r grym i gasglu treth (praesept) gan bobl Casnewydd. Bydd eich bil treth gyngor yn dangos pob elfen o’r dreth ar wahân. Dangosir y sefydliadau a’r symiau y maent yn eu praeseptu yn y tabl gerllaw.

Heddlu Gwent

Cyngor Cymunedol Trefesgob

Cyngor Cymunedol Coedcernyw

Cyngor Cymunedol Allteuryn

Cyngor Cymunedol y Graig

Cyngor Cymunedol Langstone

Cyngor Cymunedol Llanfaches

Cyngor Cymunedol Llan-wern

Cyngor Cymunedol Maerun

Cyngor Cymunedol Llanfihangel-y-fedw

Cyngor Cymunedol Trefonnen

Cyngor Cymunedol Pen-hw

Cyngor Cymunedol Redwick

Cyngor Cymunedol Ty-Du

Cyngor Cymunedol Gwynllwg

Archebiannau

Page 5: y ff ordd gyfl ymaf i roi gwybod am rywbeth, gofyn am ... · sy’n ariannu 77% o’i gost net, bron i £1.4miliwn yn fwy yn nhermau ariannol ar gyfer 2018/19, fodd bynnag, wedi

406.2

111.3

27.5

413.3

110.5

26.8

7,068.7

1,890.1

458.2

£’M £’M £

Total Total per ‘Band D’ Taxpayer

267.3 276.0 4,720.4

-1.0 -1.4 -23.7

266.3 274.6 4,696.8

212.8

61.8

3,639.6

1,057.14

266.3 274.6 4,696.8

2017/2018 2018/2019As at 1st April 2017 the council had financial reserves of £6.5 million and it is predicted that the general financial reserves will remain at this level at 31 March 2018.

4

This is the Government’s calculation of how much needs to be spent to deliver standard level of services. The figure for Newport in 2018/19 is £282 million. The council’s budget is £274.6 million.

208.2

58.1

Cyfrif Refeniw y Cyngor

Gwariant Crynswth

Llai Grantiau penodol y Llywodraeth

Llai Rhenti, Taliadau ac ati

Trosglwyddiadau i/(o) Gronfeydd wrth Gefn ac Argyfwng

Gwariant net wedi’i ariannu o:

Grant Cynnal Refeniw

Treth y Cyngor

Ar 1 Ebrill 2017, bu gan y Cyngor £6.5m wrth gefn yn gyffredinol a rhagwelir y bydd yr arian wrth gefn hwn ar yr un lefel ar 31 Mawrth 2018.

Arian wrth gefn y Cyngor

Asesiad Gwario Safonol (SSA)

Dyma gyfrif y llywodraeth o faint y mae angen ei wario er mwyn darparu lefel safonol o wasanaethau. Y ffigur ar gyfer Casnewydd yn 2018/19 yw £282m. Cyllideb y Cyngor yw £274.6m.

Page 6: y ff ordd gyfl ymaf i roi gwybod am rywbeth, gofyn am ... · sy’n ariannu 77% o’i gost net, bron i £1.4miliwn yn fwy yn nhermau ariannol ar gyfer 2018/19, fodd bynnag, wedi

5

6%

15%

52%

27%

13%

7%7%

17% 31%

3%

6%

5%

6%

1%

2%

Incwm 2018/2019

Prif ff ynhonnell o gyllid y Cyngor yw Grant Cynnal Refeniw Llywodraeth Cymru a grantiau penodol. Mae’r dreth gyngor yn cyfrannu tua 15% at gyfanswm incwm.

Gwariant 2018/2019

Bydd y Cyngor yn gwario bron £412 miliwn yn 2018/19 y bydd hanner ohono yn cyllido ysgolion a gwasanaethau cymdeithasol.

Gwasanaethau Oedolion a

Chymunedol

Arall

Ardollau

Gwasanaethau Stryd yn Un a’r

Ddinas

Gwasanaethau Corff oraethol

Addysg

Budd-dal Tai

Adfywio, Buddsoddi a Thai

Taliadau Cynllun Gostyngiadau’r Dreth

y Cyngor

Plant a Phobl Ifanc

Cyllid Cyfalaf

Ffi oedd/Taliadau

Grant Cynnal Refeniw

Grantiau Penodol

Treth y Cyngor

Page 7: y ff ordd gyfl ymaf i roi gwybod am rywbeth, gofyn am ... · sy’n ariannu 77% o’i gost net, bron i £1.4miliwn yn fwy yn nhermau ariannol ar gyfer 2018/19, fodd bynnag, wedi

Nodiadau Eglurhaol Treth y Cyngor

6

Prisiadau Mae’r rhan fwyaf o anheddau yn gorfod talu Treth y Cyngor, yn seiliedig ar fandiau prisio sydd mewn grym ers 1 Ebrill 2005. Mae cyfraddau’r bandiau prisio i’w gweld ar ail dudalen y llyfryn hwn.

ApelioOs ydych am drafod unrhyw fater yn ymwneud â’r Rhestr Brisio, e.e. band prisio eich cartref, dylech gysylltu â Treth y Cyngor Cymru, Asiantaeth y, Swyddfa Brisio, Ty Glyder, 339 Stryd Fawr, BangorGogledd Cymru, LL57 1EP. FfÔn: 03000 505505; e-bost: [email protected]. Ni allwch apelio os oes mwy na chwe mis wedi mynd heibio ers y diwrnod y dechreuoch dalu’r dreth gyngor heblaw bod yr apêl yn ymdrin â materion fel cywiro gwallau clercio.

Gallwch apelio yn erbyn y ffaith bod rhaid i chi dalu’r dreth gyngor hefyd e.e. os dylai eich cartref gael ei eithrio. Dylech apelio i’r Cyngor ond ni chewch beidio talu tra byddwch yn apelio. Caiff unrhyw ordaliadau eu had-dalu i chi os bydd eich apêl yn llwyddiannus.

Anheddau wedi’u heithrioMae rhai anheddau wedi’u heithrio, yn cynnwys eiddo sy’n gartref i fyfyrwyr yn unig, pobl ifanc o dan 18 oed yn unig, pobl â nam difrifol ar eu meddwl, rhandai sy’n gartref i berthnasau dibynnol, ac eiddo gwag sydd:• heb ei ddodrefnu (uchafswm o chwe mis)• yn eiddo i elusen (uchafswm o chwe mis)• angen gwaith mawr neu hynny’n cael ei wneud ar

hyn o bryd• wedi’i adael yn wag gan rywun sydd yn y carchar,

neu sydd wedi symud i dderbyn gofal mewn ysbyty, cartref neu rywle arall

• wedi’i adael yn wag gan rywun sydd wedi symud i

ddarparu gofal personol i berson arall• wedi’i adael yn wag gan fyfyrwyr• yn aros am brofiant neu lythyrau gweinyddu (ac

am hyd at chwe mis ar ôl profiant)• wedi’i adfeddiannu• yn gyfrifoldeb ymddiriedolwr methdalwr• wedi’i adael yn wag gan fod byw ynddo wedi’i

wahardd gan y gyfraith• yn aros i Weinidog yr Efengyl ddod i fyw yno• yn rhandy na ellir ei osod ar wahân

Mae anheddau’r Weinyddiaeth Amddiffyn hefyd wedi’u heithrio, bydd eu preswylwyr yn cyfrannu at wariant y Cyngor trwy drefniant arbennig.

Eiddo gwag ac ail gartrefiMae rhai mathau o eiddo gwag wedi’u heithrio (gweler uchod). Mae mathau eraill o eiddo gwag yn derbyn gostyngiad o 50% neu, os ydynt yn perthyn i ddosbarth penodol, gostyngiad o 25% neu ddim gostyngiad o gwbl. Mae gan Gynghorau y dewis i leihau neu derfynu’r gostyngiad o 50% i anheddau gwag wedi’u dodrefnu. Bydd eich bil yn dangos os yw eich eiddo yn perthyn i’r dosbarth dan sylw.

GostyngiadMae yna ostyngiad o 25% i oedolion sy’n byw ar eu pen eu hunain. Nid yw nifer yr oedolion mewn annedd yn cynnwys y canlynol:

• myfyrwyr llawn amser, myfyrwyr nyrsio, prentisiaid a’r rhai ar gynllun hyfforddi ieuenctid

• cleifion mewn ysbyty• pobl sy’n derbyn gofal mewn cartrefi gofal• pobl â nam difrifol ar eu meddwl• pobl sy’n aros mewn rhai mathau o hosteli neu

lochesi nos• pobl ifanc 18 ac 19 oed sydd yn yr ysgol neu

newydd adael

• gweithwyr gofal sy’n gweithio am dâl isel, i elusennau fel arfer

• pobl sy’n gofalu am rywun ag anabledd (nid eu priod, partner na phlentyn o dan 18 oed)

• aelodau lluoedd arfog tramor sy’n ymweld a rhai sefydliadau rhyngwladol

• pobl sydd yn y carchar (ac eithrio achos o beidio â thalu’r dreth gyngor neu ddirwy)

• aelodau o gymunedau crefyddol (mynachod a lleianod)

Mae gan Gynghorau’r hawl i roi neu amrywio gostyngiadau ac eithriadau yn sgil amgylchiadau lleol fel trychineb naturiol. Gellir rhoi gostyngiadau unigol hefyd e.e. oherwydd caledi.

Cysylltwch â’r cyngor os ydych yn credu eich bod yn gymwys i dderbyn gostyngiad. Os yw eich bil yn nodi eich bod yn cael gostyngiad, mae’n rhaid i chi hysbysu’r cyngor am unrhyw newid i’ch amgylchiadau. Gallwch gael eich cosbi os ydych yn methu gwneud hynny.

Pobl ag anableddauOs oes angen ystafell, neu ystafell ymolchi neu gegin ychwanegol, neu le ychwanegol yn eich eiddo i ddiwallu anghenion unigolyn anabl, efallai y byddwch yn gymwys i gael gostyngiad. Gall eich bil gael ei ostwng i’r band prisio nesaf.

Mae’r gostyngiadau hyn yn sicrhau nad yw pobl anabl yn talu mwy o dreth dim ond am eu bod angen mwy o le.

Os yw eich cartref ym Mand A bydd eich bil yn cael ei leihau un rhan o naw o bris Band D.

Page 8: y ff ordd gyfl ymaf i roi gwybod am rywbeth, gofyn am ... · sy’n ariannu 77% o’i gost net, bron i £1.4miliwn yn fwy yn nhermau ariannol ar gyfer 2018/19, fodd bynnag, wedi

Nodiadau Esboniadol Ardrethi Annomestig

7

Mae’r wybodaeth a roddir isod yn esbonio rhai o’r termau y gellir eu defnyddio ar hawlio ardrethi annomestig ac yn y wybodaeth gefnogol. Gall fod rhagor o wybodaeth am atebolrwydd i ardrethi annomestig ar gael oddi wrth yr awdurdodau bilio.

Ardrethi annomestig

Mae’r ardrethi annomestig a gesglir gan awdurdodau bilio yn cael eu talu i gronfa ganolog a’u hailddosbarthu i gynghorau bwrdeistref sirol a sir ac awdurdodau’r heddlu. Mae eich cyngor ac awdurdod heddlu yn defnyddio’u cyfrannau o’r incwm trethi wedi’i ailddosbarthu, ynghyd ag incwm oddi wrth eu trethdalwyr cyngor, y grant cynnal refeniw a ddarperir gan Weinidogion Cymru a symiau penodol eraill, i dalu am y gwasanaethau a ddarperir ganddynt

Gwerth ardrethol

Gosodir gwerth ardrethol eiddo annomestig yn y rhan fwyaf o achosion gan swyddog prisio annibynnol o Asiantaeth y Swyddfa Brisio. Mae pob eiddo annomestig yn cael eu hailbrisio bob pum mlynedd. O 1 Ebrill 2010 mae gwerth ardrethol eiddo yn cynrychioli ei werth rhent blynyddol ar y farchnad agored ar 1 Ebrill 2008. Yn achos eiddo cyfansawdd sy’n rhannol ddomestig ac yn rhannol annomestig mae’r gwerth ardrethol yn ymwneud â’r rhan annomestig yn unig. Dangosir gwerth pob eiddo y mae ardreth yn daladwy i’ch awdurdod arno yn y rhestr drethu leol, gellir archwilio copi o hynny yn: Trethi Annomestig Cymru, Asiantaeth y Swyddfa Brisio, Tŷ Rhodfa, Heol Tŷ Glas Road, Llanisien, Caerdydd, CF14 5GR (e-bost: [email protected], ffôn: 03000 505,505) neu yn swyddfeydd Cyngor Dinas Casnewydd yn Yr Orsaf Wybodaeth, Queensway, Casnewydd, NP20 4AX.

Addasu gwerth ardrethol

Gall y gwerth ardrethol newid os yw’r swyddog prisio yn credu bod amgylchiadau’r eiddo wedi newid. Gall y trethdalwr (a phobl benodol eraill sydd â buddiant yn yr eiddo) mewn amodau penodol, gynnig newid yn y gwerth. Os nad yw’r trethdalwr a’r swyddog prisio yn cytuno’r gwerth o fewn 3 mis i wneud y cynnig, bydd y mater yn cael ei gyfeirio fel apêl i dribiwnlys prisio. Mae rhagor o

wybodaeth am sut i gynnig newid mewn gwerth ardrethol ar gael oddi wrth y swyddfeydd prisio.

Lluosydd cenedlaethol ardrethu annomestig

Dyma’r gyfradd yn y bunt y caiff y gwerth ardrethol ei luosi â hi er mwyn rhoi swm y bil ardrethol blynyddol ar gyfer eiddo. Ni all y lluosydd, a bennir bob blwyddyn gan Weinidogion Cymru i fod yr un fath ar gyfer Cymru gyfan ac eithrio mewn blwyddyn ailbrisio, godi o fwy na chyfradd y cynnydd yn y mynegiant prisiau manwerthu.

Cynigion ac apeliadau

Mae gwybodaeth am yr amgylchiadau lle gall newid yn y gwerth ardrethol cael eu cynnig a sut y gellir gwneud cynnig o’r fath, ar gael gan y swyddfa brisio leol a ddangosir uchod. Mae mwy o wybodaeth am y trefniadau apelio ar gael gan Gyngor Dinas Casnewydd neu gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio, ei gwefan yn www.voa.gov.uk.

Trethu eiddo diddeiliad

Gall perchnogion eiddo annomestig gwag fod yn atebol i ardrethi eiddo gwag a godir fel 100% o’r rhwymedigaeth arferol. Mae’r rhwymedigaeth yn dechrau pan fydd yr eiddo wedi bod yn wag am 3 mis neu, yn achos ffatrïoedd a warysau, pan fydd yr eiddo wedi bod yn wag am 6 mis. Mae mathau penodol o eiddo wedi’u heithrio rhag ardrethi eiddo gwag.

Gostyngiad elusennol a dewisol

Mae gan elusennau a chlybiau chwaraeon amatur cymunedol hawl i gael gostyngiad o 80% o ardrethi ar unrhyw eiddo annomestig lle:

(a) yn achos elusennau, mae’r eiddo yn cael ei ddefnyddio yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddibenion elusennol, neu

(b) yn achos clwb, os yw’r clwb wedi’i gofrestru gyda Chyllid a Thollau EM. Mae gan awdurdodau bilio ddisgresiwn i ildio cyfan neu ran o’r 20 y cant sy’n weddill o’r bil ar eiddo o’r fath a chaiff hefyd roi gostyngiad ar eiddo a feddiennir gan gyrff penodol nad ydynt wedi’u sefydlu nac gynnal i elw.

Am fwy o wybodaeth ynghylch clybiau dylech gysylltu â Chyllid a Thollau EM, Uned Chwaraeon Clwb, St. Johns House, Heol Merton, Bootle, L75 1BB (08453020203) (gwefan http://www.hmrc.gov.uk).

Rhyddhad ardrethi busnesau bach

Mae Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Busnesau Bach) (Cymru) 2017 yn gwneud darpariaeth ar gyfer cynllun rhyddhad ardrethi busnes bach parhaol i Gymru o 1 Ebrill 2018.

Busnesau cymwys

Mae’r cynllun yn caniatáu am y rhyddhad canlynol:

Adran A

• Mae’r rhan fwyaf o eiddo sy’n cael eu meddiannu ac sydd â gwerth ardrethol o £6,000 neu lai yn gymwys i gael rhyddhad o 100%. Mae hyn yn golygu na fyddwch yn talu trethi busnes ar yr eiddo hwnnw.

• Mae cyfradd y rhyddhad yn gostwng o 100% i 0% yn achos eiddo sydd â gwerth ardrethol rhwng £6,001 a £12,000. Mae rheolau gwahanol yn berthnasol i swyddfeydd post ac eiddo a ddefnyddir yn gyfan gwbl ar gyfer gofal plant gan ddarparwyr gofal plant cofrestredig fel yr eglurir isod.

Swyddfeydd Post

• Bydd Swyddfeydd Post (ac eiddo sy’n cynnwys Swyddfeydd Post) sydd â gwerth ardrethol hyd at £9,000 yn cael rhyddhad o 100%;

• Bydd Swyddfeydd Post (ac eiddo sy’n cynnwys Swyddfeydd Post) sydd â gwerth ardrethol rhwng £9,001 a £12,000 yn cael rhyddhad o 50%.

Adran B - Adeiladau Gofal Plant Cofrestredig

• Yn achos adeiladau gofal plant cofrestredig a ddefnyddir yn gyfan gwbl at ddibenion gofal plant ac sydd â gwerth ardrethol rhwng £ 6001 a £20,500, mae’r gyfradd ryddhad yn gostwng o 100% i 0%.

Trethi Busnesau Bach ar fusnesau lluosog

Page 9: y ff ordd gyfl ymaf i roi gwybod am rywbeth, gofyn am ... · sy’n ariannu 77% o’i gost net, bron i £1.4miliwn yn fwy yn nhermau ariannol ar gyfer 2018/19, fodd bynnag, wedi

Nodiadau Esboniadol Ardrethi Annomestig

Bydd y newidiadau i reoliadau Llywodraeth Cymru a ddaw i rym ar 1 Ebrill 2018 bellach yn cyfyngu ar nifer yr eiddo sy’n gymwys i gael Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach ar gyfer busnesau lluosog.

Mewn achosion lle mae trethdalwr yn atebol am fwy na dau eiddo ar restr ardrethu annomestig lleol (“y rhestr leol”), ac mae’r eiddo hwnnw yn bodloni’r amodau gwerth ardrethol yn unig, bydd y trethdalwr ond yn derbyn rhyddhad am uchafswm o ddau o’r eiddo hynny.

O dan Erthygl 4 y rheoliadau, lle mae trethdalwr yn atebol i dalu ardrethi busnes am fwy na dau eiddo sydd ar y rhestr Ardrethu Annomestig lleol ym mhob ardal Cyngor, sy’n bodloni’r amodau gwerth ardrethol, rhaid i’r trethdalwr hysbysu’r Cyngor am yr eiddo hynny cyn gynted ag y bo’n rhesymol i’w wneud.

Cyfrifoldeb y trethdalwr yw hysbysu’r Cyngor os yw ar hyn o bryd yn derbyn mwy na dau achos o Ryddhad Ardrethi Busnesau Bach mewn perthynas ag unrhyw eiddo y mae’n gyfrifol am dalu ardrethi busnes arnynt. I hysbyu am newid amgylchiadau cysylltwch â’r adran Ardrethi Busnes.

7